Ffermio Cynaliadwy a’n Tir

Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
10:30 am - 12:30 pm, 10 Hydref 2019


Ydy cynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru – Ffermio Cynaliadwy a’n Tir – yn cryfhau neu’n gwanhau sefyllfa’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd?

Yn dilyn seminar debyg a gynhaliwyd llynedd i drafod Brexit a’n Tir  mae’r seminar hon yn gyfle i gynllunwyr iaith a chynrychiolwyr mudiadau’r Gymraeg ddysgu mwy am y cynigion cyfredol, ynghyd â’u goblygiadau i gymdogaethau Cymraeg gwledig. Bydd yn gyfle hefyd i Gynllunwyr Iaith Cymru ddatblygu ymateb cyffredin i’r ymgynghoriad cyhoeddus sy’n cau ar 30 Hydref 2019.

  • Cadeirydd:     Gwynfryn Evans, Is-lywydd Anrhydeddus IAITH
  • Cyfranwyr:     Eirwen Williams, Menter a Busnes

Bydd Eirwen yn rhannu canfyddiadau prosiect diweddar M&B: Iaith y Pridd.

  • Gareth Ioan, Cadeirydd IAITH Cyf.

Bydd Gareth yn cynnig gorolwg o’r cynigion diweddaraf o safbwynt polisi a chynllunio iaith.                                              

Rhowch wybod i ni am eich bwriad i fod yn bresennol, os gwelwch yn dda, drwy cofrestru yma,  anfon neges at post@iaith.eu neu drwy ffonio ar 01239 711668.