Gweithdy 1 Addysg Gymraeg/Ddwyieithog i Bawb – Mapio’r ddarpariaeth gyfredol.

Zoom
10:00 am - 12:00 pm, 03 Tachwedd 2021 - 04 Tachwedd 2021


Mae Dr Gwennan Higham ar ran Prifysgol Abertawe a  IAITH: y ganolfan cynllunio iaith  wedi derbyn grant gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru er mwyn cynnal gweithdai ar y thema Addysg Gymraeg/Ddwyieithog i Bawb: Ehangu Mynediad Mewnfudwyr Rhyngwladol at Addysg Cyfrwng Cymraeg Statudol. Y bwriad yw casglu pobl sydd â’r gwybodaeth, profiad a diddordeb yn y maes at ei gilydd i drafod cyfleoedd a heriau  gyda’r nod o roi cais ymchwil at ei gilydd maes o law.

Ymunwch â ni ar gyfer ein gweithdy cyntaf  sydd wedi ei drefnu ar gyfer:

Dyddiad:   Dydd Mercher,  3 Tachwedd  2021

 Amser:       10.00 y b  – 12.00 y b pm

Ar-lein:        Zoom

Archebwch eich lle am ddim YMA

CRYNODEB GWEITHDY 1