Her fawr Addysg Gymraeg!
Eisteddfod Genedlaethol - Cymdeithasau 2
11:30 am - 12:15 pm, 08 Awst 2024
Her fawr Addysg Gymraeg! Sut fydd y De-ddwyrain yn cyfrannu at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Bydd Meirion Prys Jones yn cadeirio trafodaeth am yr heriau ym maes Addysg Gymraeg yn y De- ddwyrain.
Bydd y sesiwn hwn yn trafod beth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd a beth arall sydd angen ei wneud i ddatblygu addysg Gymraeg ymhellach yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru er mwyn darparu cyfleodd addysg Gymraeg i bawb o bob cefndir. Bydd aelodau’r panel yn cynnwys unigolion sydd yn gweithio yn uniongyrchol ym meysydd cynllunio polisi a hyrwyddo darpariaeth addysg Gymraeg yn ogystal ag unigolion sydd yn gweithio gyda dysgwyr a theuluoedd wrth ddarparu addysg Gymraeg.
Bydd y sesiwn yn gyfle i drafod materion megis:
- y camau sydd yn angenrheidiol i sicrhau twf pellach,
- addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol cyfrwng Cymraeg,
- hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg gyda grwpiau o gefndiroedd amrywiol, a’r
- system o gategoreiddio ysgolion a darparu addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae Meirion Prys Jones yn Ymgynghorydd Cysylltiol gyda IAITH ac yn gyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.