Polisi Iaith a Her Siaradwyr Newydd

Gweminar - Microsoft Teams
16:30 pm - 17:30 pm, 01 Mehefin 2023


Yn y gweminar hwn bydd Yr Athro Colin H Williams yn cyflwyno gorolwg a chrynodeb o'i lyfr newydd Language Policy and the New Speaker Challenge: Hiding in Plain Sight sy'n ymchwilio arwyddocâd y cysyniad o 'siaradwyr newydd' mewn perthynas â pholisi iaith yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon, Catalwnia, Galicia, Gwlad y Basg, a Navarre.

Yn dilyn y cyflwyniad, bydd trafodaeth am bolisi iaith a 'siaradwyr newydd' gyda Rob Dunbar, Stuart Dunmore a Wilson McLeod (Prifysgol Caeredin), Kathryn Jones (IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith), Maite Puigdevall a Joan Pujolar (Universitat Oberta de Catalunya), John Walsh (Prifysgol Galway), Bernadette O'Rourke (Prifysgol Glasgow) ac aelodau o'r gynulleidfa.

Cofrestrwch yma