Cadernid Iaith i Rieni


Dyddiad: 11 Mehefin - 11 Mehefin
Lleoliad: Rhithiol
Hyfforddwr: Bethan Williams
Tâl: £200 & TAW
Amser: 9:30 am - 11:30 am

Wyt ti eisiau defnyddio mwy o dy Gymraeg gyda’r plant?

Ymuna gyda’r hyfforddiant rhithiol yma i ddysgu am ein arferion ieithyddol. Bydd y gefnogaeth yn adeiladu dy hyder i siarad rhagor o Gymraeg yn y cartref.

11.06.2025 – 9:30 – 11:30 &

16.07.2024 – 9:30 – 11:30

Bydd cyfle i drafod:

  • Pryd ydyn ni’n defnyddio Cymraeg a phryd a pham ydyn ni’n troi at y Saesneg
  • Beth sy’n gwneud hi’n anodd defnyddio’r Gymraeg gyda’n plant a beth yw’r heriau 
  • Syniadau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn gadarn
  • Creu cynllun i gynyddu defnydd personol o’r Gymraeg

Cynnwys y sesiynau -  Dwy sesiwn 2 awr o hyd

Sesiwn 1 : Cyflwyniad i Gadernid Iaith ac adnabod sefyllfaoedd anodd

  • Gwahanol fathau o siaradwyr
  • Iaith o’n cwmpas
  • Deall dewis a newid ieithyddol
  • Adnabod a myfyrio ar sefyllfaoedd anodd
  • Creu targedau personol

Sesiwn 2 : Ymarfer ein Cadernid Iaith

  • Gwerthuso’r targedau personol
  • Deall mwy am Gadernid Iaith
  • Ail-fframio ffactorau negyddol
  • Ymateb i’r heriau
  • Cynllunio i fod yn Gadarn gyda’r Gymraeg

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu gyda Bethan Williams ,  Rheolwr Addysg a Hyfforddiant IAITH.