Gofal Cwsmer a’r Gymraeg


Dyddiad: 09 Medi - 09 Medi
Lleoliad: Rhithiol
Hyfforddwr: Dr Osian Elias
Tâl: £110 +TAW
Amser: 9:30 am - 11:30 am

Nod y gwaith yw cynyddu hyder a sgiliau staff sy'n gweithio mewn derbynfeydd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r cyhoedd. 

Amcanion Dysgu

Bydd cyfle i drafod:

  • Pryd wyt ti'n defnyddio'r Gymraeg a sut mae'n gwneud i ti deimlo
  • Pam cyfarch yn ddwyieithog? – deall dewis iaith
  • Creu amgylcheddau dwyieithog
  • Ymateb i geisiadau cwsmeriaid - (chwarae rôl)

Bydd pawb sy'n mynychu yn derbyn Canllaw Gofal Cwsmer a'r Iaith Gymraeg lle gellir ychwanegu nodiadau personol. Yna gellir argraffu'r adnodd hwn a'i lamineiddio i'w ddefnyddio ar ôl dychwelyd i'r gweithle.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu gyda Osian Elias