Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i bawb. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ynghylch hygyrchedd y wefan, oherwydd rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella’r profiad i bawb sy’n ymweld â hi.
Cydymffurfio â safonau
- Ar bob tudalen, rydym yn ceisio dilyn blaenoriaethau 1 a 2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm y We Fyd-eang (W3C).
- Mae pob tudalen ar y wefan hon yn defnyddio iaith farcio semantig strwythuredig.
Trefn tabiau
Gallwch symud i unrhyw elfen o bob un o dudalennau’r wefan mewn trefn resymegol drwy bwyso’r allwedd ‘TAB’ ar eich bysellfwrdd.
Testun amgen ar gyfer delweddau
Rydym yn ceisio darparu testun amgen perthnasol a disgrifiadol ar gyfer pob delwedd ar y wefan nad yw’n ddelwedd addurnol. Mae hynny’n fanteisiol i ddefnyddwyr sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol (megis darllenwyr sgrîn) neu ddefnyddwyr sy’n dewis diffodd delweddau yn eu porwr.
Dalennau diwyg rhaeadrol
Cafodd y wefan hon ei dylunio gan ddefnyddio dalennau diwyg rhaeadrol. Mae modd i ddefnyddwyr ddarllen cynnwys y wefan hyd yn oed os yw’r gynhaliaeth ar gyfer dalennau diwyg rhaeadrol wedi’i diffodd yn eu porwr gwe.
Caiff dalennau diwyg amgen eu darparu er mwyn gwella rhwyddineb darllen y wefan i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg. Mae botymau i newid rhwng y ddau gynllun lliw cyferbynnedd uchel i’w cael ar y dudalen Hygyrchedd.
Mae botymau i addasu maint y testun ar y wefan i’w cael ar frig ochr chwith pob tudalen.
Addasu maint y testun
Yn ogystal, gallwch addasu maint y testun ar y wefan hon drwy ddefnyddio’r opsiynau perthnasol yn eich porwr gwe:
Mozilla/Firefox
Pwyswch ‘CTRL’ a ‘+’ (i chwyddo maint y testun) neu ‘CTRL’ a ‘-’ (i leihau maint y testun).
Internet Explorer 8
Cliciwch ar y botwm ‘Page’ sydd ar frig ochr dde ffenestr eich porwr; dewiswch ‘Text Size’ a dewiswch yr opsiwn yr ydych yn ei ffafrio.
Yn ogystal, mae Internet Explorer 8 yn darparu opsiwn ‘Zoom’ i chwyddo’r dudalen gyfan. I wneud hynny, cliciwch ar ‘Page’, dewiswch ‘Zoom’ a dewiswch yr opsiwn yr ydych yn ei ffafrio.
Opera
- Dewiswch yr eitem ‘Tools / Preferences’ ar y ddewislen (neu pwyswch ‘Alt-P’)
- Dewiswch y tab ‘Web pages’
- Cliciwch ar y botwm wrth ymyl ‘Normal font’
- Dewiswch y ffont a’r maint yr ydych yn eu ffafrio
- Cliciwch ar y botwm ‘OK’ (neu pwyswch yr allwedd ‘Enter’)
Safari
Windows
Pwyswch ‘CTRL’ a ‘+’ (i chwyddo maint y testun) neu ‘CTRL’ a ‘-’ (i leihau maint y testun).
Mac
I chwyddo maint y testun, pwyswch ‘Command’ a ‘+’ (i ddod â’r testun yn nes atoch) neu ‘Command’ a ‘-’ (i fynd â’r testun ymhellach oddi wrthych).
Os nad yw eich porwr wedi’i restru yma, edrychwch yn ffeil ‘Help’ y porwr neu ar wefan y dosbarthwr i gael cymorth i addasu maint y testun.
Meddalwedd hygyrchedd
-
JAWS – darllenydd sgrîn ar gyfer Windows. Mae fersiwn arddangos y gellir ei lawrlwytho a’i defnyddio am gyfnod penodol ar gael.
-
Lynx – porwr gwe rhad ac am ddim ar gyfer defnyddwyr dall, sy’n dangos testun yn unig ac sy’n cynnwys dangosyddion Braille sy’n newid wrth i’r defnyddiwr symud o gwmpas y sgrîn.
-
Links – porwr gwe rhad ac am ddim ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg, sydd â lled band isel.
-
WebbIE – porwr gwe ar gyfer pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg, yn enwedig y sawl sy’n defnyddio darllenwyr sgrîn, sy’n cael ei ddefnyddio ledled y byd ers 2001.