Croeso i Newyddion IAITH
Mae gan IAITH Newyddlen newydd sbon yn cynnwys ein newyddion diweddar!
Darllenwch ymlaen yma
(Ychwanegwyd ar 02/11/2021)
Croeso i Newyddion IAITH
Mae gan IAITH Newyddlen newydd sbon yn cynnwys ein newyddion diweddar!
(Ychwanegwyd ar 02/11/2021)
Mae Bro360 yn brosiect sy’n cynnal wyth o wefannau newyddion lleol mewn ardaloedd amrywiol yng Ngwynedd a gogledd Ceredigion. Maen nhw’n llawn straeon am bobl a digwyddiadau lleol.
(Ychwanegwyd ar 02/11/2021)
Mae Dr Gwennan Higham ar ran Prifysgol Abertawe a IAITH: y ganolfan cynllunio iaith wedi derbyn grant gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru er mwyn cynnal gweithdai ar y thema Addysg Gymraeg/Ddwyieithog i Bawb: Ehangu Mynediad Mewnfudwyr Rhyngwladol at Addysg Cyfrwng Cymraeg Statudol.
(Ychwanegwyd ar 14/10/2021)
Mae'r Gymraeg yn rhan o'r gwead cymdeithasol a diwylliannol ym mhob tref a chymuned yng Nghymru ac mae'n cyfrannu at eu hymdeimlad unigryw eu hunain o le a thraddodiadau. Mae'r Digwyddiad Rhwydwaith hwn wedi'i anelu at gynghorau tref a chymuned sy'n cymryd camau i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg eu hunain, cefnogi’r defnydd o'r Gymraeg yn eu cymunedau, ac yn ystyried neu’n cymryd rhan mewn creu lleoedd/cynllunio.
Crynodeb Creu Lleoedd i’r Gymraeg Ffynnu, 25 Tachwedd 2021
(Ychwanegwyd ar 07/10/2021)
Eleni mae IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith yn cynnal digwyddiad i drafod profiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches o ymgartrefu yng Nghymru.
(Ychwanegwyd ar 14/07/2021)
Mae IAITH yn edrych ymlaen at ddechrau peilota cwrs newydd ar bendantrwydd iaith gyda Mudiad Meithrin fel rhan o brosiect LISTEN.
Mae prosiect LISTEN yn treialu rhaglen hyfforddi sy’n helpu siaradwyr ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol i fynegi eu hunain yn eu hiaith eu hunain tra’n teimlo’n dawel ac yn hunan-sicr.
• Bydd yr hyfforddiant yn cynnig strategaethau pan fydd pobl yn ansicr a yw eu cymheiriaid yn siarad yr un iaith.
• Bydd y fethodoleg hon yn cael ei chefnogi gan ddeunydd darllen, fideos, ac adnoddau.
• Prif ganlyniad y prosiect LISTEN fydd datblygu methodoleg ar gyfer addasu cysyniad ‘hyder ieithyddol’ (language assertiveness) i sefyllfaoedd penodol a datblygu cyrsiau ar gyfer siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.
Am ragor o fanylion cysylltwch gyda post@iaith.cymru
https://www.iaith.cymru/uploads/general-uploads/Hyfforddiant_Pendantrwydd.pdf
(Ychwanegwyd ar 22/03/2021)
Mae partneriaeth LLECHI, GLO a CHEFN GWLAD yn eich gwahodd i webinar fore dydd Iau, 25 Chwefror (11.00 – 12.00 o’r gloch) i ddathlu blwyddyn gyntaf y prosiect arloesol hwn. Mi fydd yr arweinwyr newydd eu hunain yn eich cyflwyno i’w gwaith yn lleol ac i swmp a sylwedd y croesffrwythloni cyffrous sydd wedi deillio o’u cydweithio. Ac i’w holi am y glo mân (fel petai) y bydd y newyddiadurwr Dylan Iorwerth.
Cofrestrwch yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_iJn_fkSxSZeM6B5HdlE29A
Am gymorth neu ragor o fanylion cysylltwch â post@iaith.cymru
(Ychwanegwyd ar 12/02/2021)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth IAITH o Gredoau rhieni, eu hymddygiadau a’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu: gofal plant ac addysg gynnar. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar sampl o rieni nad oeddent yn defnyddio addysg gynnar neu ofal plant a ariennir gan y llywodraeth.
Gellir gweld yr astudiaeth yma:https://llyw.cymru/credoau-rhieni-eu-hymddygiadau-ar-rhwystrau-y-maen-nhwn-eu-hwynebu-gofal-plant-ac-addysg-gynnar
(Ychwanegwyd ar 15/01/2021)
Creu Lleoedd yw ffordd Llywodraeth Cymru o wireddu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy’r system gynllunio. Yn ystod yr “Eisteddfod Amgen” (yr Eisteddfod rhithiol) ym mis Awst, cyflwynodd Owain Wyn, BURUM a Dr Kathryn Jones: IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith weminar yn trafod cynllunio defnydd tir yng Nghymru o safbwynt “Cymru…. lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”, ac yn benodol, targed y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r erthygl hon gan Owain yn crynhoi’r cyflwyniad hwnnw ac yn trafod beth y gall ac y dylai cynllunwyr ei wneud yn rhyngddisgyblaethol i gryfhau cyfraniad Creu Lleoedd i’r ymdrech genedlaethol.
(Ychwanegwyd ar 04/12/2020)
Tudalen 3 o 9 Tudalennau.
Ymunwch â IAITH heddiw.
Dewch yn aelodCofrestrwch yma i dderbyn gwybodaeth am ddatblygiadau polisi a chynllunio iaith yng Nghymru.
Cofrestru