Newyddion

Creu Lleoedd … lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Yr egwyddor o Greu Lleoedd yw dull Llywodraeth Cymru o roi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith drwy’r system gynllunio.

mwy

(Ychwanegwyd ar 23/07/2020)

No image available

 IAITH yn falch i gyhoeddi bod y Methodological Guide for Inclusion in Centres with Plurilingual Programs wedi ei gwblhau ac ar gael i’w lawrlwytho. http://innolang.eu/wp-content/pdf/Guia-Innolang-download.pdf

Gan ganolbwyntio ar ddechrau’r cyfnod addysg uwchradd, mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo dysgu ieithoedd lleiafrifol ac yn cyflwyno dull holistaidd ar gyfer datblygu sgiliau ieithyddol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion o dramor, ffoaduriaid a

disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r methodoleg arloesol hwn yn ffrwyth prosiect dwy flynedd ar y cyd rhwng Acció Cultural del País Valencià, IAITH, ELEN, Dublin City University a Consiglio Nazionale Delle Ricerche.

 

mwy

(Ychwanegwyd ar 11/11/2019)

No image available

Prosiect ymchwil i ddeall agweddau ac ymddygiad rhieni a gwarcheidwaid o ran gofal ac addysg blynyddoedd cynnar

(Gwaith llawrydd dros dro gyda IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru)

mwy

(Ychwanegwyd ar 02/05/2019)

Ffair Ffeirio Syniadau

Cyfle i fentrau cymunedol Cymraeg i ddod ynghyd i rannu profiadau a syniadau ac i drafod cyfleoedd i gydweithio a dylanwadu ar bolisi cenedlaethol

Cofrestrwch yma

 

Cofnod o’r sesiwn drafod a’r bwriad i sefydlu Rhwyd

Gosodwyd trywydd i’r trafod fel a ganlyn:

  • Perthynas cymunedau â’i gilydd
  • Perthynas cymunedau â Llywodraeth
  • Perthynas y Gymraeg â chymunedau

 

Perthynas cymunedau â’i gilydd

Nodwyd fel cyd-destun y cyfeiriad a gafwyd gan Shan Ashton ynghynt yn y dydd at Senedd Wledig Sweden a oedd wedi tyfu yn llwyfan grymus i lais cymunedau lleol yno.

Croesawyd y diwrnod yn fawr fel cyfle i ddod â mentrau cymunedol Cymraeg at ei gilydd. Roedd cyfleoedd fel hyn yn brin. Nodwyd bod cryn gydweithio eisoes rhwng grwpiau yn Nyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Bro Stiniog ond bod angen datblygu’r cysylltiadau ymhellach.

Awgrymwyd creu cofrestr o fentrau a chwmnïau cymunedol oedd â’r Gymraeg yn allweddol i’w gweithrediad. Ymhellach, gallai cofrestr o’r fath fod yn sail i rwydwaith hunangymorth defnyddiol. At hynny, awgrymwyd y gellid rhoi arferion da ar-lein er mwyn hwyluso dysgu o brofiadau blaenorol ynghyd â phecyn adnoddau ymarferol. Nodwyd y byddai cael man canolog a allai gynnig cyngor a gwybodaeth o fantais. Byddai hwyluso rhwydweithio yn swyddogaeth arall ddefnyddiol i ganolbwynt o’r fath.

Cyfeiriwyd at waith y Plunkett Foundation yn y maes yn Lloegr ac awgrymwyd bod angen datblygu rhwydwaith tebyg yng Nghymru.

Codwyd y posibilrwydd o sefydlu banc pwrpasol a allai ariannu mentrau cymunedol, e.e. cynnig dull i fuddsoddi mewn portffolio o dafarnau lleol.

Awgrymwyd bod angen codi mwy o ymwybyddiaeth o botensial yr economi sylfaenol.

Perthynas cymunedau â Llywodraeth

Nodwyd, er gwybodaeth, bod grŵp yn y gogledd wrthi’n paratoi strategaeth economaidd amgen i Wynedd a Môn.

Awgrymwyd y dylid llunio a chyhoeddi maniffesto ar gyfer mudiadau cymunedol Cymraeg eu hiaith.

Nodwyd nad oedd llywodraeth ganol na llywodraeth leol yn llawn ddeall y maes a bod mentrau rhan amlaf yn llwyddo er gwaethaf dylanwad a gweithrediadau Llywodraeth yn hytrach nag o’i achos.

Nodwyd bod angen i'r maes godi ei broffil, codi ymwybyddiaeth a chodi lefelau ei egni; a bod angen llunio ac amlygu modelau amgen o ymwneud lleol a dulliau o hyrwyddo’r economi yn lleol. Dylid creu sail ddeallusol i’r hyn y mae’r mentrau’n geisio ei gyflawni a’i ‘ddarlledu’ yn helaeth.

Awgrymwyd bod angen gwneud cryn waith lobio a chodi ymwybyddiaeth ymysg pleidiau gwleidyddol fel man cychwyn.

Nodwyd mai eu hannibyniaeth oedd cryfder pennaf mentrau cymunedol.

Trafodwyd potensial cynghorau tref a chymuned fel peiriannau posib i ysgogi newid ac anogwyd unigolion blaengar i sefyll etholiadau i gynghorau tref a chymuned.

Nodwyd bod gwyddor newid ymddygiad yn llywio llawer o bolisi cyhoeddus ar hyn o bryd ac y dylid amlygu potensial mentrau cymunedol i gyfrannu i newid ymddygiad unigolion ar lefel leol.

Perthynas y Gymraeg â chymunedau

Cafwyd trafodaeth fer ar y Gymraeg a’r gymuned a chafwyd consensws cyffredinol y dylai’r Gymraeg gael ei thrafod fel rhan annatod o gymdogaethau Cymraeg. Cyfrwng yw iaith ac fe ddylid ei thrin fel cyfrwng i greu newid ac i weithredu’n lleol. Mae potensial economaidd a chymdeithasol o weithredu’n gynhwysol trwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd bod angen hyrwyddo ymagwedd gyfannol sy’n ystyried iaith fel rhan annatod o wead y gymdogaeth leol.

Crynhoi negeseuon

Bod angen datblygu strwythur cydweithredol rhwng mentrau o gyffelyb fryd ar draws Cymru, fel nodwyd uchod er mwyn rhannu gwybodaeth a phrofiad a hyrwyddo’r feddylfryd.

Bod angen canfod mwy o gyllid cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r economi sylfaenol.

O ran polisi cyhoeddus, mae angen hyrwyddo mwy ar wario’n lleol ac annog perchnogaeth leol go iawn ar asedau lleol. Mae hyn yn golygu datblygu ymddiriedaeth mewn cymdogaethau lleol gan asiantaethau canolog.

Nodwyd bod Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod sail gadarn o ran gwerthoedd i ymdrechion i greu economi amgen gynhwysol, gan ei bod yn cyfuno amcanion strategol o ran y Gymraeg, gweithredu cymunedol, cynaladwyedd a’r economi a bod angen gwneud mwy o waith i amlygu’r gwerthoedd a’r uchelgais gyffredin ar sail hynny.

Yn olaf, ac yn allweddol, nodwyd bod angen i ymdrechion i ddatblygu ymwneud lleol a’r economi sylfaenol fod yn hwyl!

Gareth Ioan

16 Chwefror 2019

mwy

(Ychwanegwyd ar 15/01/2019)

Prosiect Estyn Llaw: Haf 2018, Treuddyn

Enillwyd grant o £4900 gan IAITH drwy gynllun grant Arian i Bawb er mwyn gweithio gyda chymuned o bobl hŷn sy’n siarad Cymraeg. Darparwyd y prosiect o dan faner un o gynlluniau IAITH sef Estyn Llaw.  Bwriad gwreiddiol y prosiect oedd cynnal cyfres o weithdai i gynyddu sgiliau’r grŵp o safbwynt ymgysylltu o fewn eu cymunedau. Gwyliwch yr hanes yma

mwy

(Ychwanegwyd ar 30/10/2018)

Brexit a’n Tir

Mae Cynllunwyr Iaith Cymru wedi cyflwyno ei ymateb i ymgynghoriad Brexit a’n Tir Llywodraeth Cymru.

mwy

(Ychwanegwyd ar 29/10/2018)

Cynllun Radical ar gyfer Gaeleg

Mae Misneachd wedi cyhoeddi 'Cynllun Radical ar gyfer Gaeleg' mewn ymateb i'r Cynllun Gaeleg Cenedlaethol swyddogol a gafodd ei lansio’n gynharach eleni.

mwy

(Ychwanegwyd ar 24/10/2018)

No image available

Bu Gareth Ioan yn sôn am y seminar ar oblygiadau cynigion Llywodraeth Cymru yng nghyswllt taliadau uniongyrchol i ffermwyr ar y Bwletin Amaeth bore ‘ma. 

mwy

(Ychwanegwyd ar 17/10/2018)

Dull addysgiadol arloesol ar gyfer cynhwysiant trwy ieithoedd lleiafrifol

Mae criw IAITH yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio ar y prosiect yma yn dilyn cyfarfod yn Valencia dros y penwythnos.

mwy

(Ychwanegwyd ar 24/09/2018)

Cynllunio Ieithyddol 1993 -2018: Tueddiadau Rhyngwladol

Ar ddydd Iau'r 9fed o Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru , mi fydd yr Athro Colin Williams yn cyflwyno darlith flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru.

mwy

(Ychwanegwyd ar 29/08/2018)

Tudalen 5 o 9 Tudalennau.

Aelodaeth

Ymunwch â IAITH heddiw.

Dewch yn aelod

Digwyddiadau

02 Mai 2024

Cylchlythyr

Cofrestrwch yma i dderbyn gwybodaeth am ddatblygiadau polisi a chynllunio iaith yng Nghymru.

Cofrestru