Brexit a’n Tir
29 Hydref 2018
Mae Cynllunwyr Iaith Cymru wedi cyflwyno ei ymateb i ymgynghoriad Brexit a’n Tir Llywodraeth Cymru.
Mae ymateb CIC yn cynnig 8 argymhelliad sy’n cynnwys yr angen i:
- osod cynnal y Gymraeg yn ein cymunedau gwledig yn un o’r nodau strategol ac yn egwyddor ganolog i unrhyw gynlluniau newydd a argymhellir;
- gynnal asesiad effaith ieithyddol llawn yng nghyswllt y cynlluniau arfaethedig;
- gasglu data manwl ynghylch y cysylltiad arwyddocaol rhwng y sector amaeth a’r Gymraeg a/neu’n gosod trefn i wneud hynny;
- sicrhau bod buddiannau’r Gymraeg yn cael eu hystyried yn llawn wrth i’r Llywodraeth bennu’r ‘nwyddau cyhoeddus’ y mae’n disgwyl i’r sector ‘rheoli tir’ eu cynhyrchu i’r dyfodol
Darllenwch Ymateb Cynllunwyr Iaith Cymru.