Cadeirydd newydd i IAITH

10 Chwefror 2017

Penodwyd Gareth Ioan i lywio IAITH i’r cyfnod nesaf yn ei hanes. Etholwyd Gareth i’r gadair yng nghyfarfod Bwrdd Cyfarwyddwyr IAITH ar 18 Ionawr 2017.


Cadeirydd newydd i IAITH

Mae cadeiryddiaeth Gareth yn dilyn cyfnod sylweddol o wasanaeth gan Owen Llywelyn o Ddyffryn Aeron.

Dydy Gareth, sy’n byw yn ardal Caerwedros, Ceredigion, ddim yn ddieithr i IAITH, gan y bu iddo wasanaethu fel Prif Weithredwr i’r cwmni rhwng 1997 a 2016. Mae bellach yn gweithio’n llawrydd fel ymgynghorydd iaith a materion diwylliannol ac yn gweithredu fel Ymgynghorydd Cysylltiol achlysurol gyda IAITH.

“Rwy’n edrych ymlaen i’r sialens newydd hon”, meddai Gareth. “Staff, cyfarwyddwyr ac ymgynghorwyr cysylltiol IAITH yw’r tîm mwyaf profiadol o gynllunwyr iaith yn Ewrop. Mae’n fraint i mi gael fy ethol i’w harwain drachefn mewn rôl newydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda’n Rheolwr Gyfarwyddwr, Dr Kathryn Jones, a’r tîm i sicrhau bod IAITH yn parhau i fod yn sefydliad arloesol ac arweiniol yn y maes polisi a chynllunio iaith am flynyddoedd i ddod”.

Meddai Dr Kathryn Jones, “Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Owen Llywelyn am ei arweiniad dros y blynyddoedd diwethaf ac yn edrych ymlaen i ddatblygu’r cwmni ymhellach gyda Gareth yn y gadair. Mae sawl cyfle ar y gorwel a sawl datblygiad newydd yn yr arfaeth. Mae’n amser cyffrous i bolisi a chynllunio iaith yng Ngymru”.

Gellir darllen anerchiad Gareth i gyfarfod blynyddol IAITH yng Ngorffennaf 2016. ‘Ugain mlynedd o gynllunio iaith’  yma