Cenedl Noddfa? - Cyfle i wylio eto

04 Awst 2021

Cyfle i wylio eto fel rhan o Eisteddfod AmGen

5ed o Awst am 4:00.


Cenedl Noddfa? - Cyfle i wylio eto

Cenedl Noddfa? Profiadau ffoaduriaid o ymgartrefu yng Nghymru

Gwyliwch yma

Eleni mae IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith yn cynnal digwyddiad i drafod profiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches o ymgartrefu yng Nghymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn Ionawr 2019. Byddwn yn dangos ffilm fer gan Dr Gwennan Higham, Prifysgol Abertawe a wnaed gyda ffoaduriaid sydd wedi dderbyn yr hawl i aros ym Mhrydain gan y Swyddfa Gartref yn ddiweddar. Maent yn trafod eu profiadau o ymgartrefu yng Nghymru, byw yma yn ystod y pandemig, y cysylltiadau sydd ganddynt gyda phobl leol, a’u canfyddiadau am Gymru, hunaniaeth a’r Gymraeg.  

Bydd yn y materion sy’n codi o’r profiadau hyn yn cael eu trafod gan banel sy’n cynnwys: Joseph Gnabo, Shara Atashi, Gwennan Higham, Aled Edwards a Sioned Williams AS. Bydd y drafodaeth yn cael ei llywio gan Sion  Meredith, Pennaeth  Dysgu  Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.