Colin Williams yn closio at IAITH

13 Hydref 2015

Mae IAITH yn falch o gyhoeddi y bydd un o’i noddwyr anrhydeddus, Yr Athro Colin H Williams, yn datblygu perthynas agosach gyda’r ganolfan yn y dyfodol fel Ymgynghorydd Cysylltiol.


Mae Colin Williams yn un o gynllunwyr iaith amlycaf Cymru ac yn meddu ar broffil rhyngwladol yn y maes. Ar ôl gyrfa academaidd lwyddiannus a arweiniodd iddo ddatblygu capasiti arwyddocaol mewn cynllunio iaith yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, mae’r Athro Williams bellach wedi ei dderbyn yn Athro a Chymrawd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Caergrawnt. Tra yn aelod o Goleg Sant Edmwnd, un o golegau ymchwil Prifysgol Caergrawnt, bydd yn dilyn trywydd ymchwil personol i effeithiolrwydd strategaethau iaith mewn pedair gwlad – Canada, Y Ffindir, Yr Alban a Chymru. 

“Mae IAITH yn falch o’r cyfle i feithrin perthynas broffesiynol agosach â Colin”, meddai Gareth Ioan, Prif Weithredwr IAITH. “Mae Colin yn uchel iawn ei barch ar draws y byd. Bydd ei gael yn aelod mwy gweithredol o’n tîm cysylltiol yn gaffaeliad mawr i ni a’n cleientiaid. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fedru datblygu cyfleoedd i gydweithio i’r dyfodol”.

Meddai Dr Kathryn Jones, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil IAITH, “Bydd hi’n dda medru tynnu ar brofiad helaeth Colin wrth i ni ddarparu gwasanaethau i’n cleientiaid amrywiol. Mae’r diddordeb mewn hyrwyddo ieithoedd llai ar gynnydd ar draws Ewrop ac mae IAITH yn falch o fedru cyfrannu at hynny, e.e. trwy ein gwaith diweddar yng Nghernyw, Y Ffindir ac o fewn rhwydweithiau Ewropeaidd”.