Comisiynydd neu Gomisiwn?

12 Awst 2015

Pensaernïaeth gyfreithiol y ddeddfwriaeth iaith gyfredol oedd testun darlith flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru eleni – dan y testun Comisiwn neu Gomisiynydd?


Comisiynydd neu Gomisiwn?

Daeth dros 60 ynghyd i wrando ar yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost o Adran y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn rhannu rhai o gasgliadau ymchwil diweddar a gynhaliwyd gan yr adran i sefyllfa Comisiynwyr Iaith yn rhyngwladol. Ysgogodd ei sylwadau drafodaeth frwd dan gadeiryddiaeth Marc Phillips, Llywydd Anrhydeddus IAITH.

Roedd darlith Diarmait yn un heriol, gan holi nifer o gwestiynau manwl ynghylch y drefn gyfredol, e.e. priodoldeb cynnal Comisiynydd unigol yn hytrach na Chomisiwn â phersonoliaeth gyfreithiol luosog, natur hawliau ieithyddol o dan y drefn gyfredol, lleoliad priodol swyddogaethau rheoleiddio a hyrwyddo amrywiol, ynghyd â phriodoldeb trefniadau atebolrwydd a chraffu o fewn y drefniadaeth gyfredol.

Mae’r ddarlith yn un o gyfres y mae’r Athro Mac Giolla Chríost yn ei chynnal ar sail yr ymchwil hwn. Mae penodau pellach i’w datgelu ym Mangor a Chaerdydd yn ystod y tymor academaidd nesaf. Gobeithiwn gynnwys crynodeb o’i sylwadau ar y wefan hon maes o law.