Cyhoeddi Methodoleg Addysgol Arloesol ar gyfer Cynhwysiad Drwy Iaith Leiafrifol

11 Tachwedd 2019

 IAITH yn falch i gyhoeddi bod y Methodological Guide for Inclusion in Centres with Plurilingual Programs wedi ei gwblhau ac ar gael i’w lawrlwytho. http://innolang.eu/wp-content/pdf/Guia-Innolang-download.pdf

Gan ganolbwyntio ar ddechrau’r cyfnod addysg uwchradd, mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo dysgu ieithoedd lleiafrifol ac yn cyflwyno dull holistaidd ar gyfer datblygu sgiliau ieithyddol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion o dramor, ffoaduriaid a

disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r methodoleg arloesol hwn yn ffrwyth prosiect dwy flynedd ar y cyd rhwng Acció Cultural del País Valencià, IAITH, ELEN, Dublin City University a Consiglio Nazionale Delle Ricerche.