Cymraeg Bob Dydd

11 Mawrth 2015

Yn ddiweddar bu IAITH yn cynnal gweithdy yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd. Roedd prosiect Cymraeg Bob Dydd yr Urdd yn cynnal digwyddiad i hybu dwyieithrwydd ymysg disgyblion sy’n astudio Cymraeg fel ail iaith. 


Cymraeg Bob Dydd

Cafwyd cyflwyniadau gan cyn ddisgyblion ail iaith a oedd wedi mynd ymlaen i astudio ac i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Cafwyd cyfraniad gan Lowri Walters, actores ifanc sydd ar fin ymddangos yn y ddrama lwyfan boblogaidd, Warhorse yn Llundain. Pwysleisiodd Lowri cymaint o help oedd bod yn ddwyieithog wrth fynd ati i chwilio am waith ym myd cystadleuol perfformio.

Fel rhan o’r digwyddiad bu IAITH yn cynnal gweithdy yn trafod manteision dwyieithrwydd a gwerth dwyieithrwydd wrth gystadlu am swyddi. Buom hefyd yn trafod dwyieithrwydd ar draws Ewrop. Cafodd y disgyblion hefyd y cyfle i drafod eu syniadau am ddwyieithrwydd ac am eu hunaniaeth Gymreig.

Uchafbwynt y prynhawn heb os oedd ymweliad gan y DJ enwog Huw Stephens. Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn clywed am sut y bu i’r Gymraeg helpu’r Cymro o Gaerdydd i gyrraedd gorsaf Radio 1 yn Llundain pan oedd ond yn 18 oed. Roedd hefyd yn arbennig o falch ei fod yn dal i weithio yng Nghymru ar Radio Cymru ac yn byw bywyd hollol ddwyieithog.

Diolch i’r Urdd am y gwahoddiad i fod yn rhan o’r diwrnod pwysig a diddorol yma.