Cymraeg i Blant, Llywodraeth Cymru

05 Ebrill 2016

Mae IAITH yn hynod falch o’r cyfle a gafwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cymru i sefydlu a datblygu’r cynllun Twf dros y 15 blynedd ddiwethaf a’r prosiect Tyfu gyda’r Gymraeg yn ystod y tair blynedd diwethaf. Credwn ein bod wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i gyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg ar aelwydydd Cymru yn ystod y cyfnod hynny, yn ogystal â chodi proffil y Gymraeg ym myd rhianta cynnar. 


Cymraeg i Blant, Llywodraeth Cymru

Bu i Twf ennyn edmygedd rhyngwladol am ei arloesedd a’i ddull gwaith cynnes ac effeithiol wrth ymwneud â phobl yn eu cymdogaethau. Mae ein diolch yn fawr i’r staff ymroddedig a fu’n allweddol i lwyddiant y ddau gynllun, ynghyd â’n partneriaid niferus yn y sector iechyd a gweithwyr cymunedol eraill ar draws Cymru.

Dymunwn yn dda iawn yn awr i’r Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw sefydlu a hyrwyddo Cymraeg i Blant yn ystod y blynyddoedd nesaf. Hyderwn y bydd i’r prosiect barhau i roi’r gefnogaeth orau posibl i rieni Cymru wrth iddyn nhw geisio sicrhau’r defnydd o Gymraeg ar eu haelwydydd, o fewn eu teuluoedd ac o fewn eu cymdogaethau lleol.