Datblygu Cymunedol a’r Gymraeg
16 Ebrill 2025
Dyma gyfarfod i sefydlu Rhwyd – rhwydwaith ar gyfer mentrau cymunedol i gefnogi ei gilydd i ddatblygu ymagwedd cymunedol holistaidd ac organig o adfywio economaidd ac adfywio iaith.
Gyda’n gilydd byddwn yn:
- rhannu profiadau a syniadau
- adnabod angen a photensial
- cyd-gwestiynu heriau a datrysiadau.
Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli Cyf. a ariennir gan YAC.
Lle? Y Plas, Machynlleth, SY20 8DL
Pryd? 19 Mai
Pris? Rhad ac am ddim
