Digwyddiad Cyhoeddus Prosiect LISTEN

18 Gorffennaf 2022

Sut y gall siaradwyr ieithoedd lleiafrifol ddefnyddio strategaethau Cadernid Iaith yn eu bywydau bob dydd

Campws Prifysgol Valencia, Gandia.

Dydd Gwener Gorffennaf 22ain (8:00-11yb GMT) (9:00-12:00yp CET)

Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu'n fyw ar FacebookYouTube


Digwyddiad Cyhoeddus Prosiect LISTEN

Bydd Digwyddiad Cyhoeddus LISTEN yn cynnwys cyflwyniadau gan bartneriaid y prosiect: Afûk, Consiglio Nazionale delle Ricerche (CNR), IAITH, Conradh na Gaeilge (CnaG), Prifysgol Sapientia, Universitat de Valencia (UV), European Language Equality Network (ELEN).

Bydd Kathryn Jones a Siwan Tomos (IAITH) yn trafod hyfforddiant Cadernid iaith gyda siaradwyr Cymraeg, ynghyd â chyflwyniadau ar hyfforddiant gyda siaradwyr Gwyddeleg gan Pádraig Ó Tiarnaigh a Conchúr Ó Muadaigh (Conradh na Gaeilge) a siaradwyr Ffriseg gan Mirjam Vellinga (Afûk).

Cofrestrwch yma

Agenda