Dr Steve Eaves, Doethur Iaith
22 Mehefin 2015
Mae IAITH yn falch iawn o’r cyfle i longyfarch Steve Eaves ar dderbyn gradd doethur gan Brifysgol Caerdydd. Pwnc ei ymchwil oedd swyddogaeth Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith (HYI) wrth weithredu polisi a chynllunio iaith yng Nghymru.
Dyma’r tro cyntaf i’r maes HYI yng nghyswllt y Gymraeg fod yn destun astudiaeth academaidd. Mae IAITH wedi chware rhan amlwg wrth ddatblygu’r maes hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith dros yr ugain mlynedd diwethaf ac rydym yn falch iawn mai un o staff y ganolfan ac ymarferwr cyson yn y maes sydd wedi mynd i’r afael â’r pwnc am y tro cyntaf.
Gallwch ddarllen y traethawd ymchwil yma: http://orca.cf.ac.uk/73554/ . Mae’r awdur yn argymell penodau 4, 5, a 6 i ymarferwyr yn y maes polisi a chynllunio iaith.
Daw’r ddoethuriaeth academaidd gan Brifysgol Caerdydd yn fuan ar ôl i Steve dderbyn doethuriaeth er anrhydedd gan Y Brifysgol Agored y llynedd am ei gyfraniad at iaith a diwylliant Cymru. Llongyfarchiadau mawr iddo ar y ddau gyfrif.
ON: Dim jôcs ‘Doctor, Doctor...’ os gwelwch yn dda!