#DysguCymraeg
03 Rhagfyr 2015
Dros y flwyddyn diwethaf bu IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ac Urdd Gobaith Cymru yn cydweithio ar brosiect newydd, cyffrous.
Bwriad IAITH+ oedd darparu cyfle i grwpiau o ddisgyblion gymryd rhan mewn cyfres o weithdai dwyieithog i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys elfennau o ymwybyddiaeth iaith a hyfforddi’r hyfforddwyr. Nod y gweithdai oedd arfogi’r ieuenctid i hwyluso gweithdai o fewn yr ysgol ac yn gymunedol a rhoi cyfle iddynt ddatblygu adnodd i farchnata manteision y Gymraeg i’w cyfoedion.
Penllanw’r gwaith yn Ysgol Argoed, Ysgol Bryn Alun, Coleg Sir Benfro ac Ysgol Fitzalan oedd lansio’r ffilm ganlynol yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd yr wythnos diwethaf:
Diolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect. Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda’r criwiau brwdfrydig.
Ariannwyd y prosiect hwn gan GwirVol
Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda siwan.tomos@iaith.eu