Ffarwel Elaine

13 Tachwedd 2015


Ffarwel Elaine

Mae IAITH yn dymuno’n dda iawn i Elaine Davies wrth inni ffarwelio â hi ar achlysur ei hymddeoliad ganol Tachwedd. Bu Elaine yn aelod allweddol o staff IAITH am 14 mlynedd.

Wedi gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol fel gweithiwr cymdeithasol, rheolwr a swyddog hyrwyddo Rhaglen Gymraeg CCETSW, daeth Elaine at IAITH yn 2001 i’n cynorthwyo i sefydlu cynllun trosglwyddo iaith arloesol Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn Ebrill 2002 lansiwyd y cynllun Twf sydd wedi gwneud cymaint o argraff ar Gymru ac ar gymunedau iaith lleiafrifol eraill ar draws y byd. Mae’n diolch yn fawr i Elaine am osod Twf ar sylfaen mor gadarn.

Ers degawd bellach bu’n Gyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant IAITH, gan gyfrannu’n helaeth ac arloesol at ddatblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith yn ddull gwaith safonol o fewn cynllunio iaith yng Nghymru. Bu hefyd yn cynnal sawl prosiect ymchwil allweddol. Yn eu plith bu’r ymchwil nodedig i brofiadau defnyddwyr gwasanaeth Cymraeg o fewn y gwasanaethau iechyd yn 2012. Bu’r ymchwil hwnnw yn sylfaen gref i ddatblygiad y cynllun strategol ‘Mwy na geiriau’.

Bydd ôl llaw Elaine yn parhau’n amlwg ar ein gweithgareddau ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei chyfraniad hynod werthfawr i ddatblygiad IAITH a’r maes polisi a chynllunio iaith yn gyffredinol. Hyderwn na fyddwn yn colli cyswllt â hi yn llwyr.

Yn y cyfamser, mae Elaine wedi gadael olynydd medrus. Penodwyd Siwan Tomos yn Gyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant IAITH. Gellir cyfeirio ymholiadau perthnasol at Siwan ar 01745 585120 neu drwy ebostio siwan.tomos@iaith.eu.