Gwerthuso Cynllun Gaeleg yr Alban
19 Mai 2016
Mae IAITH a Phrifysgol Caeredin yn cynnal gwerthusiad o Gynllun Iaith Gaeleg Cenedlaethol 2012 – 2017.
Mae IAITH a Phrifysgol Caeredin yn cynnal gwerthusiad o Gynllun Iaith Gaeleg Cenedlaethol 2012-2017 yr Alban ar ran Bòrd na Gaidhlig. Y tîm ymchwil yw: Yr Athro Rob Dunbar, Yr Athro Wilson McLeod a’r Dr Stuart Dunmore (Prifysgol Caeredin) a Dr Kathryn Jones a’r Athro Colin H. Williams (IAITH). Dosberthir holiadur ar-lein yn yr Alban a chynhelir grwpiau ffocws mewn sawl lleoliad.
Gallwch ddarllen crynodeb ddwyieithog o Feysydd Datblygu, Allbynnau Penodol a Blaenoriaethau Strategol y Cynllun Iaith Gaeleg Cenedlaethol 2012 – 2017 yma.
Mae copi Gaeleg o’r cynllun llawn ar gael yma.
Mae copi Saesneg o’r cynllun llawn ar gael yma.