IAITH ar waith yn yr Alban

17 Rhagfyr 2015

Mae IAITH yn falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi ein comisiynu i gynnal arolwg interim o weithrediad y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer yr Iaith Aeleg 2012-17 ar ran Bòrd na Gàidhlig yn yr Alban. 


IAITH ar waith yn yr Alban

Bydd IAITH yn cydweithio’n agos â’n partneriaid ym Mhrifysgol Caeredin dros y saith mis nesaf i gwblhau’r arolwg. Cynhelir y gwaith gan Dr Kathryn Jones a’r Athro Colin H Williams, ar ran IAITH, a’r Athro Wilson McLeod yr Athro Rob Dunbar a Dr Stuart Dunmore ar ran Prifysgol Caeredin.

“Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i gyflawni’r gwaith arwyddocaol hwn,” meddai Kathryn Jones, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil IAITH. “Bydd profiad rhyngwladol IAITH a dealltwriaeth ein cyfeillion ym Mhrifysgol Caeredin o’r sefyllfa yn yr Alban yn briodas gref. Mae’n anrhydedd i ni bod y Bòrd yn ymddiried y dasg i’n dwylo”.

Daw’r comisiwn ar ddiwedd blwyddyn a welodd IAITH yn cydweithio’n agos â Chyngor Cernyw i ddatblygu Strategaeth Iaith i’r Gernyweg ar gyfer y ddegawd nesaf. Dywedodd Gareth Ioan, Prif Weithredwr IAITH, “Fel canolfan cynllunio iaith amlycaf Cymru mae IAITH yn falch iawn o cyfle i chwarae’n rhan yn hyrwyddo holl ieithoedd brodorol Prydain”.

National Gaelic Language Plan 2012 - 2017.