IAITH+ yn brysur ar waith yn Ysgol Fitzalan, Caerdydd

02 Mehefin 2015

Ar y 14eg o fis Mai bu’r prosiect IAITH+ yn brysur ar waith yn Ysgol Fitzalan, Caerdydd


IAITH+ yn brysur ar waith yn Ysgol Fitzalan, Caerdydd

Bwriad IAITH+ yw darparu cyfle i grwpiau o ddisgyblion i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai dwyieithog i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys elfennau o ymwybyddiaeth iaith, hyfforddi’r hyfforddwyr a dylunio dwyieithog. Mae’r prosiect yn cael ei redeg ar y cyd rhwng IAITH a Adran Ieuenctid, Urdd Gobaith Cymru.

Cafwyd prynhawn i’w gofio yng nghwmni 8 o ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Fitzalan yn trin a thrafod ac yn cynllunio.

Diolch iddynt am eu brwdfrydedd a’u hegni. Rydym yn edrych ymlaen i’w gweld yn hyfforddi disgyblion bl.7 yr ysgol ymhen rhai misoedd.