IAITH yn Galicia
29 Ebrill 2015
Bu IAITH yn Vigo yn Galicia ar gyfer cyfarfod y rhwydwaith Ewropeaidd ar Siaradwyr Newydd mewn Ewrop Amlieithog – Heriau a Chyfleoedd.
Roedd hon yn gyfarfod i gynllunio gwaith y rhwydwaith yn ystod ail gyfnod y cynllun sy’n edrych ar siaradwyr newydd yn nhermau pobl sy’n dysgu ieithoedd lleiafrifol brodorol, dysgu ieithoedd newydd ar gyfer y gweithle ac yn dysgu ieithoedd newydd o ganlyniad i fudo. Kathryn Jones sy’n cynrychioli IAITH ar bwyllgor llywio’r rhwydwaith.
Os am ragor o wybodaeth am y rhwydwaith cysylltwch â Kathryn ar kathryn.jones@iaith.eu neu 01745 585120 neu ewch i wefan y rhwydwaith http://www.nspk.org.uk.
Cewch wybodaeth am yr ISCH COST Action IS1306: New Speakers in a Multilingual Europe - Opportunities and Challenges ar y wefan yma’n ogystal: http://www.cost.eu/COST_Actions/isch/Actions/IS1306