Iaith: Yr Achos Busnes
16 Tachwedd 2016
Dros y misoedd nesaf bydd IAITH: y ganolfan cynllunio iaith, yn gweithio gyda busnesau mewn tair tref yn Sir Ddinbych er mwyn cynyddu gallu busnesau i weithio’n ddwyieithog.
Mae tystiolaeth yn dangos bod busnesau sydd yn arddangos sgiliau a gweithle dwyieithog yn medru cynyddu apêl eu busnes i siaradwyr Cymraeg, i ddysgwyr ac i dwristiaid – rydym felly yn anelu i gynyddu masnach a gwella llinell waelod y busnesau.
Y tair tref y byddwn yn gweithio ynddynt yw:
- Llanelwy
- Llangollen
- Prestatyn
Mae’r prosiect peilot arloesol yma, a ariannir gan Gyngor Sir Ddinbych, yn gweithio’n benodol i godi ymwybyddiaeth, sgiliau a hyder busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r cwsmeriaid.
Bydd y gwaith yn cynnwys:
- Hyfforddiant i gyflwyno gwybodaeth, codi sgiliau a rhannu adnoddau
- Sesiynau mentora 1:1 i rymuso busnesau i fapio a chynllunio eu defnydd o ddwyieithrwydd
- Creu a rhannu adnodd pwrpasol a fydd yn galluogi busnesau i ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg ar lafar, yn ysgrifenedig ac ar y we.
Rydym wedi enwi’r prosiect yn Iaith: Yr Achos Busnes gan fod ymchwil yn dangos bod gweithredu’n ddwyieithog yn medru helpu’r busnes i fasnachu yn llwyddiannus ac i ymestyn ei rwydweithiau.
Os hoffech ragor o wybodaeth am waith y prosiect neu os hoffech fod yn rhan o’r cynllun, mae croeso mawr i chi gysylltu â mi ar 01745 222052 neu siwan.tomos@iaith.eu