Lansio gwefan prosiect amlieithog Listen

25 Tachwedd 2020

Mae prosiect Listen ar hyder ieithyddol  wedi lansio gwefan amlieithog newydd yn https://listen-europe.eu/cy/hafan/. Mae'r wefan yn casglu gwybodaeth a newyddion am brosiectau, yn ogystal â darparu llwyfan ar gyfer datblygiadau prosiect yn y dyfodol.

Un o amcanion prosiect Listen yw addysgu'r cysyniad o bendantrwydd iaith i siaradwyr ieithoedd cyd-swyddogol, ieithoedd sydd mewn perygl.ieithoedd brodorol, 'rhanbarthol' a lleiafrifol (IRhLl) 


Bydd prosiect Listen yn treialu rhaglen hyfforddi sy'n helpu siaradwyr IRhLl i fynegi eu hunain yn eu hiaith eu hunain tra'n teimlo'n dawel ac yn hunan-sicr, yn ogystal â phan fydd pobl yn ansicr a yw eu cymheiriaid yn siaradwyr o'r un iaith.

Datblygwyd y prosiect ar ôl i ymchwil ddarganfod bod siaradwyr ieithoedd llai eu defnydd yn tueddu i newid i'r brif iaith mewn rhai cyd-destunau a sefyllfaoedd. Pan na chefnogir yr iaith leiafrifol yn swyddogol gall y newid fod yn gyflymach ac yn amlach.

Mae seicolegwyr yn disgrifio'r math hwn o ymddygiad newid iaith fel “ymostyngeiddrwydd”. Mae ymostyngeiddrwydd yn ataliad digymell, hunan-ysgogedig o ymddygiad penodol o blaid un arall yn rhinwedd arfer, neu ofn cosb. Mae ymostyngiad ieithyddol yn digwydd pan fydd rhywun yn rhoi’r gorau i siarad ei iaith ei iaith leiafrifol ac yn penderfynu newid i'r brif iaith.

Er enghraifft, os bydd siaradwr Cymraeg yn mynd i siop leol mewn ardal Gymraeg lle maent yn gwybod bod y staff yn siarad Cymraeg ac eto maent yn dechrau siarad Saesneg, yna mae'r person hwnnw'n ymostwng yn ieithyddol. Os yw dau siaradwr Gwyddeleg yn sgwrsio a daw dieithryn atynt a'u bod yn newid i'r Saesneg cyn i’r dieithryn  siarad, yna maent yn ymostwng yn ieithyddol.

Mae sawl math o ymostyngiad ieithyddol. Gall pob un ohonynt greu pryder yn y siaradwr a allai arwain at ymdeimlad o fethiant a bod yn ddiymadferth. Y newyddion da yw ei fod yn ymddygiad ac felly gellir ei drin drwy ddefnyddio dulliau sy'n cael eu datblygu gan brosiect Listen. Gydag amser, ymarfer, ac ewyllys da, nod y prosiect yw grymuso siaradwyr IRhLl a chynyddu'r defnydd cymdeithasol o'u hiaith.

Mae consortiwm prosiect Listen yn cynnwys Prifysgol València a Phrifysgol Sapientia yn Kolozsvár, adran ymchwil ILC mewn ieithyddiaeth gyfrifiadol  Consiglio Nazionale d corff anllywodraethol Iwerddon elle Ricerche (Pisa), arbenigwyr cynllunio iaith IAITH (Cymru) y corff anllywodraethol Ffriseg Afûk, corff anllywodraethol Gwyddelig Conradh na Gaeilge a Rhwydwaith Rhwydwaith Cydraddoldeb Iaith Ewropeaidd European Language Equality Network (ELEN).

Yn ogystal â'r wefan gellir dilyn y prosiect Listen ar gyfryngau cymdeithasol

Twitter  https://twitter.com/LISTENProject1

Facebook https://www.facebook.com/listenprojecteu

Instagram https://www.instagram.com/listenprojecteu/

Os am fanylion  pellach cysylltwch gyda post@iaith.cymru