Lleisiau Cymraeg: deall ailstrwythuro cymdeithasol a chynllunio’r Gymraeg

07 Gorffennaf 2022

Darlith rhithiol IAITH: y ganolfan Cynllunio Iaith

13eg o Orffennaf am 5:00y.h

Mae IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith yn falch bod Dr Catrin Williams sydd newydd gwblhau ei doethuriaeth gyda Choleg y Brenin, Llundain yn traddodi ein darlith flynyddol eleni

Cofrestrwch yma


Lleisiau Cymraeg: deall ailstrwythuro cymdeithasol a chynllunio’r Gymraeg

Mae’r ddarlith hon yn codi cwestiynau ynghylch goblygiadau cymdeithasol llwyddiant polisi iaith yn ne-ddwyrain Cymru. Yn seiliedig ar ymchwil doethuriaeth ethnograffaidd, mae’n dadlau bod defnydd iaith bob dydd yn amlygu ac yn egluro prosesau pwysig yn natblygiad yr iaith, tu hwnt i ystadegau ac ystyriaethau demograffaidd. Trwy ddadansoddi iaith bob dydd pobl sy’n siarad a phobl sydd ddim yn siarad Cymraeg, mae’r ymchwil yn archwilio ystrydebau a hunaniaethau arwyddocaol yn yr ardal er mwyn deall beth sy’n bwysig i bobl ar lawr gwlad. Mae’n ystyried sut mae twf yr iaith, a thwf addysg cyfrwng Cymraeg, yn cael eu hamlygu ym mhrofiadau pob dydd pobl gwahanol. Mae’n dadlau bod twf i’w weld mewn teimladau o wahaniaeth, eithrio, codi ffiniau, ac anghyfartaledd cymdeithasol sy’n datblygu law yn llaw â llwyddiant cynllunio ieithyddol yn y de-ddwyrain.