Mae IAITH yn ehangu
08 Chwefror 2022
Mae IAITH yn edrych am Swyddog Maes ac Ymchwil llawrydd neu gyfnod penodol* i gefnogi gwaith prosiect y cwmni.

Bydd y swyddog yn cefnogi Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant a Chyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu IAITH ar dasgau amrywiol ac ar amrywiaeth o brosiectau.
Bydd y tasgau yn cynnwys:
- Ymuno â chyfarfodydd cynllunio a datblygu prosiectau
- Cynnal cyfweliadau ffôn/ar-lein fel ffordd o gasglu gwybodaeth
- Cefnogi’r gwaith o gynnal grwpiau ffocws
- Cynnal ymchwil pendesg
- Dadansoddi data
- Drafftio adroddiadau
- Cefnogi gyda tasgau dydd-i-ddydd y prosiectau
Bydd oriau’r swydd yn hyblyg ac yn ddibynnol ar ofynion y gwaith ac argaeledd y sawl sy’n cael eu penodi, yn unol â pholisi gweithio’n hyblyg y cwmni. Disgwylir mai o’i g/cartref bydd y swyddog yn gweithio’n bennaf ond ceir cefnogaeth weinyddol o’n swyddfeydd yng Nghastellnewydd Emlyn a Bae Colwyn. Croesawn geisiadau o unrhyw le yng Nghymru neu tu hwnt i Gymru. Mae trefniadau gweithio o bell yn eu lle a gellir cadarnhau’r trefniadau hynny yn dilyn penodiad i’r swydd.
Mae IAITH wedi ymrwymo i'r egwyddor o gyfle cyfartal mewn cyflogaeth.
I wneud cais anfonwch eich CV at post@iaith.cymru erbyn 18 Chwefror 2022 ac mae croeso mawr i chi gysylltu gyda Kathryn am sgwrs anffurfiol ar 07867 420990.
*Gall IAITH dderbyn unigolyn i’r swydd hon ar gyfnod secondiad