‘Mwy na Geiriau’

22 Chwefror 2016

Dros y misoedd diwethaf, mae IAITH wedi bod yn gweithio gydag adran gweithlu gofal cymdeithasol Cyngor Wrecsam.


‘Mwy na Geiriau’

Darparwyd sesiynau hyfforddi ‘Mwy na Geiriau’ a oedd yn trafod elfennau o ymwybyddiaeth iaith ac yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol. Darparwyd y sesiynau ar ffurf gweithdai a chafwyd trafodaethau bywiog ac adeiladol ynglŷn â’r angen i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog a defnyddio’r cynnig rhagweithiol fel pwynt cychwyn hanfodol i’r gwasanaethau rheiny.

Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda’r adran eto yn y dyfodol

Os oes gennych ddiddordeb yn hyfforddiant IAITH gallwch ddilyn y linc yma