NPLD

07 Tachwedd 2016

Bu Gareth Ioan yn cynrychioli IAITH yn seminar yr NPLD ym Mrwsel yn ddiweddar.


NPLD

Cafwyd cyflwyniadau difyr ynghylch ieithoedd Llai eu Defnydd ac Ieithoedd Rhanbarthol yr Eidal  a chafwyd seminar ar gyfraniad ieithoedd llai i'w heconomi leol. Roedd yn gyfle hefyd i ffarwelio â Meirion Prys Jones a fydd yn gadael ei swydd fel Prif Weithredwr NPLD ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl 15 mlynedd wrth y llyw. Mae IAITH yn falch iawn i'w groesawu Meirion i blith ein tîm o ymgynghorwyr cysylltiol.