Creu Lleoedd….lle mae’r Gymraeg yn ffynnu  

04 Rhagfyr 2020

Creu Lleoedd yw ffordd Llywodraeth Cymru o wireddu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy’r system gynllunio. Yn ystod yr “Eisteddfod Amgen” (yr Eisteddfod rhithiol) ym mis Awst, cyflwynodd Owain Wyn, BURUM a Dr Kathryn Jones: IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith weminar yn trafod cynllunio defnydd tir yng Nghymru o safbwynt “Cymru…. lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”, ac yn benodol, targed y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r erthygl hon gan Owain yn crynhoi’r cyflwyniad hwnnw ac yn trafod beth y gall ac y dylai cynllunwyr ei  wneud yn rhyngddisgyblaethol i gryfhau cyfraniad Creu Lleoedd i’r ymdrech genedlaethol.


Mae cyd-destun deddfwriaethol y papur hwn yn ddeublyg. I ddechrau, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy fel un o’i saith  nod, “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”. Yn ail, tra nad yw Deddf Cynllunio (Cymru) yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â mater  sicrhau iaith Gymraeg sy’n ffynnu, mae’n trafod cynllunio datblygiad a’r Gymraeg yn nhermau osgoi achosi niwed. “Rhaid i’r arfarniad(au) .... gynnwys asesiad o effeithiau tebygol y polisïau yn y Fframwaith / cynllun drafft ar ddefnydd y Gymraeg.”[1]

Mae’r cyd-destunau strategol a pholisi wedi datblygu'n sylweddol ers y Deddfau hyn yn 2015. Cyhoeddwyd Cymraeg 2050[2] ym mis Mehefin 2017 gan nodi gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i wireddu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Cofnodwyd tua 560,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011 – felly mae hyn yn golygu cynnydd o 440,000. Y mae i’r fframwaith polisi ddwy thema arall. Yr ail thema yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy ddyblu’r niferoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol o 10% yn 2013 i 20% erbyn 2050 – eto, cynnydd o tua 300,000. Y drydedd thema yw creu amodau a chyd-destun cymdeithasol ac economaidd ffafriol ar gyfer y cynnydd ymahwn, ac mae’n ymwneud yn uniongyrchol â rôl Creu Lleoedd.

Mae ffocws Llywodraeth Cymru o ran cynnydd mewn siaradwyr yn bennaf ar greu siaradwyr drwy’r system addysg cynradd ac uwchradd, ac ar gynnal gallu ieithyddol yn dilyn y cyfnod addysg. Mae’r taflwybr yn rhagweld  cynnydd o tua 230,000 erbyn 2043 (ers 2011).

Rhagamcanir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol  (ONS ) y bydd poblogaeth Cymru dros 3 oed tua 3.25milliwn  erbyn 2043.[3] Fel cyfran o’r boblogaeth a ragamcenir, felly,  mae’r taflwybr yn rhagweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn nhermau canrannau o 19% yn 2011 i ychydig dan 26% - sef tua 1 o bob 4 – erbyn 2043.

Ffigwr 1 Cymraeg 2050: Taflwybr a Rhagamcaniad

Mae’r cyfnod nesaf hwn o fewn amserlen y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, yn fwy na thebyg o fewn amserlen y Cynlluniau Datblygiad Strategol, ac yn gynyddol y Cynlluniau Datblygu Lleol wrth iddynt cgael eu hadolygu ac i Ail Rownd y Cynlluniau datblygu (LDP2’s) gael eu creu.

Fodd bynnag, hyd yn hyn, ychydig iawn o dystiolaeth sydd i ddangos fod Llywodraeth Cymru – drwy Cymraeg 2050 a Creu Lleoedd - yn mynd i’r afael â ble mae’r cynnydd o 200,000 i ddigwydd ac a ydyw wedi ystyried – yn ddigon manwl ac eglur – pa gyd-destunau economaidd a chymdeithasol sydd eu hangen i alluogi’r cynnydd. 

Er iddynt gael eu cyhoeddi ar ôl Cymraeg 2050, ac er iddynt annog cefngogaeth ar gyfer yr iaith - dim ond ychydig o fanylion penodol sydd  ar sut y gallai neu a ddylai TAN 20 (2017) a Pholisi  Cynllunio Cymru rhifyn 10 (2018) ar sut y gallai neu a ddylai Creu Lleoedd chwarae rhan mewn galluogi’r Gymraeg i ffynnu fel iaith gymunedol.

Mae gan Cymru’r Dyfodol – y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol[1]   “Cymru lle mae pobl yn byw .......mewn lleoedd lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu” fel un o’i 11 canlyniad. Mae’n galondid yn awr i weld ei fod yn cynnig “fod yr iaith yn cael ei hystyried yn strategaeth ofodol pob cynllun datblygu”.  Mae’r testun cefnogol ar pob un o’r pedwar rhanbarth hefyd yn cynnwys cyfeiriad at waelodlin nifer o siaradwyr Cymraeg a chanllaw sy’n annog ei bod yn “bwysig bod Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol yn ystyried y gydberthynas rhwng tai strategol, trafnidiaeth a thwf economaidd, a'r Gymraeg” ac y dylai Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol “gynnwys hierarchaethau aneddiadau a pholisïau dosbarthu twf sy'n creu'r amodau i'r Gymraeg ffynnu a pharhau i fod yn iaith gymunedol (beunyddiol yn y De-ddwyrain)”.  Er hynny, nid oes ganddo Bolisi Gofodol Strategol penodol a fyddai’n gallu adnabod a chefnogi ble y gellid annog datblygiadau i gefnogi ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd neu i alluogi’r iaith i ddatlblygu fel rhan naturiol ffyniannus o gymunedau a thrwy hynny, gefnogi’r canlyniad.

Rwy’n gwerthfawrogi wrth gwrs na all Creu Lleoedd ystyried y Gymraeg yn ynysig. Ond, ‘does bosib nad yw darparu lleoedd cynaliadwy o ansawdd uchel â iaith Gymraeg sy’n ffynnu yn golygu integreiddio meysydd polisi yn well a chael chydweithio gwell rhwng cynllunwyr ieithyddol a gofodol?. Bydd cael rhagolwg integredig ac ar y cyd o safbwynt datrys problemau yn gymorth help i fynd i’r afael â rhai “materion cynhennus” allweddol.

Un o’r problemau, os nad y brif broblem, wrth graidd y mater yw’r angen am well dealltwriaeth o’r berthynas rhwng ffenomenon ddiwylliannol a chymdeithasol fel iaith a datblygiad defnydd tir. Rydym ni gyd yn dweud pethau cadarnhaol ynglŷn â chreu’r amodau cywir er mwyn i’r iaith Gymraeg ffynnu, ond sut y gall Creu Lleoedd wella’r amodau i annog a chreu cynnydd yn y nifer a’r canran o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ogystal â chynnydd yn y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg yn ddyddiol? Mewn geiriau eraill, beth all Cynllunio ei wneud? 

Yn hanesyddol gwelir “datblygiad”  fel rhywbeth sy’n cael effaith andwyol ar yr iaith yng Nghymru. Fodd bynnag, parhaodd cynnydd yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru hyd at Gyfrifiad 1911, gan gyd-daro â thwf diwydiannau echdynnol a diwydiannu yng Nghymru. Heb or-symleiddio, canlyniad rhyfeloedd, y dirwasgiad rhwng y ddau ryfel, ymfudo, diffyg statws cymharol mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, ailstrwythuro economaidd a pholisi addysg (tan y nawdegau), diffyg trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall ac effaith mewnfudo sylweddol dros yr hanner can mlynedd diwethaf (y tu hwnt i allu cymunedau lleol i amsugno cynnydd o'r fath) sydd, at ei gilydd, wedi arwain i raddau helaeth at y gostyngiad yn nifer a chyfran siaradwyr Cymraeg.

Ffigur 2: Dosbarthiad y Llinell Sylfaen : Cyfran y bobl oed 3 a throsodd a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ôl hanes dwysedd

Mewn egwyddor, dylai datblygiad cynaliadwy olygu datblygiad o faint a lleoliad nad yw’n mynd y tu hwnt i gapasiti cymunedau i gymryd datblygu o’r fath. Byddai hyn hefyd yn caniatáu cynhyrchu ac atgynhyrchu’r niferoedd a’r cyfradd o siaradwyr – ac yn gyfle hefyd i ddefnyddio arfau, mewn cyfuniad, i greu’r amodau cywir ar gyfer defnydd dyddiol o’r Gymraeg.

Yn ail, er mwyn cynorthwyo Creu Lleoedd, mae angen i gynllunwyr gofodol a ieithyddol nodi elfen ofodol gliriach i'w hamcanion. Nid yw Cymraeg 2050 yn mynd i'r afael â ble mae cynnydd i ddigwydd. Mae TAN 20 yn sôn am ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol ond hefyd, yn allweddol, yn sôn am ardaloedd ieithyddol arwyddocaol. Fodd bynnag, nid yw'n mabwysiadu dull rhagnodol ond, yn hytrach, mae'n gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau cynllunio lleol i nodi ardaloedd o'r fath. Tybir felly bod ACLl  i edrych ar sensitifrwydd neu arwyddocâd mewn cyd-destun lleol yn hytrach nag mewn cyd-destun cenedlaethol.

Ymddengys bod dadansoddiad o ymatebion (Rheoliad 15) a/neu wrthwynebiadau (Rheoliad 17) diweddar Llywodraeth Cymru i’r don gyntaf o adolygiadau CDLl, boed ar gam Strategaeth ddewisol, y cam cyn-adneuo neu’r cam adneuo, yn cefnogi’r farn hon. Ymddengys bod  ymatebion y Gangen Gynlluniauo  yn dilyn themâu cyffredin:

  • Mae angen i’r ACLlau dan sylw ddangos yn gliriach sut mae’r angen i amddiffyn a gwella’r Gymraeg wedi dylanwadu ar eu dewis o raddfa a dosbarthiad gofodol ar gyfer twf.
  • Diffyg tystiolaeth, eglurder neu sicrwydd a yw, neu sut mae, yr ACLl penodol wedi ystyried yr angen i adnabod meysydd o sensitifrwydd ieithyddol (sylwer – nid pwysigrwydd)
  • Yr angen i fwy o ACLlau fabwysiadu polisi iaith Gymraeg i fynd i’r afael â chynigion sylweddol na ragwelwyd

Yn ogystal, hyd yn hyn ymddengys y trafodir effaith y Gymraeg ar y dewis o raddfa raddfeydd dewisedig a dosbarthiad gofodol ar gyfer twf yn gan rai ACLLau, ond nid eraill.  Mae’n aneglur pa feini prawf y bu’r Gangen Cynlluniau yn ei defnyddio i benderfynu pa ACLlau sy’n “sensitif” a/neu “arwyddocaol” o safbwynt Creu Lleoedd. Dylai’r agwedd hon ddod yn eglurach o hyn allan oherwydd y newidiadau a wnaed i ddogfen Cymru’r Dyfodol y cyfeiriwyd ati uchod, lle cynigir y bydd angen ystyried yr iaith ymhob strategaeth ofodol.

Yn drydydd, mewn perthynas â a chyfraniad Creu Lleoedd, mae angen cyflymu ein hymdrechion monitro a gwerthuso i ddeall effaith cynlluniau ar yr iaith Gymraeg. Er i’r Gymraeg gael ei chydnabod fel ystyriaeth ddichonadwy yn y broses gynllunio a phenderfyniadau ers yn agos i ddeg mlynedd ar hugain, tameidiog ar y gorau yw monitro a gwerthuso effaith y broses gynllunio ar yr iaith Gymraeg o hyd. Os yw Creu Lleoedd i’w farnu ar y gwerth ychwanegol mae’n ei roi i greu iaith Gymraeg sy’n ffynnu, mae angen gosod strwythurau ac adnoddau priodol yn eu lle – ar lefel genedlaethol, strategol a lleol – i fesur a gwerthuso’r cyfraniad hwnnw.

Yn bedwerydd, mae angen i Creu Lleoedd wneud defnydd llawnach a gwell o’i offer i wneud y gorau o welliannau  – yn ogystal â lliniaru risgiau – fel y gwna mewn meysydd eraill fel bioamrywiaeth. Er enghraifft, mae angen i ddyraniadau sylweddol,  yn arbennig ym meysydd sensitifrwydd a/neu bwysigrwydd  iaith, wella’r manteision yn well?). Er enghraifft, gallai rhain fod ar ffurf cyfraniadau ariannol neu ddiriaethol tuag at greu ysgol cyfrwng Cymraeg, cefnogi rhwydweithiau Cymraeg eu hiaith, cyflogi ‘animateur’, neu strwythur(au) monitro a gwerthuso. Yn yr un modd, dylid annog datblygwyr  cynigion sylweddol annisgwyl  i gynllunio yn nhermau cyfoethogi’r cychwyn cyntaf – yn ogystal â chynnwys gweithrediadau lliniarol – er mwyn ceisio gwneud eu datblygiadau’n dderbyniol.

Yn olaf, y pumed pwynt yw’r angen i sefydlu sut y gellir gwella a barnu ansawdd yr Asesiadau Effaith Iaith Gymraeg (AEIG), a chan bwy. Yn ein cyflwyniad, fe wnaethom ddisgrifio cyfyngiadau’r fethodoleg prif lif gyfredol, “Cynllunio a’r iaith Gymraeg – y Ffordd Ymlaen”[5], a’n gwaith cychwynnol ar ddatblygu dull sy’n seiliedig ar Fframwaith Ansawdd  Asesu a Rheoli Risg ISO31000(2009). Yn nhermau helpu ACLlau i farnu asesiadau, mae angen corff awdurdodedig hefyd fel y ceir yn asesiadau effaith meysydd fel  llifogydd, ecoleg, yr economi, trafnidiaeth a’r tirlun. Yn y pendraw, mae angen strwythur ar drefn asesu

Mae’r mwyafrif, os nad pawb, yn derbyn, os yw iaith i oroesi fel iaith bob dydd ac yn ffenomenon gymdeithasol tu hwnt i’r cartref, mae angen cadarnle arni. Ond os yw mwyafrif y cynnydd o 230,000 (a chyfrannau a defnydd) i ddod o’r ardaloedd dinesig yng ngogledd ddwyrain a de ddwyrain Cymru, pa oblygiadau sydd i gynllunio datblygiad a gwneud penderfyniadau? Yng nghyd-destun poblogaeth genedlaethol sy’n gymharol statig, erbyn canol y 30au, bydd penderfyniadau am raddfa a lleoliad datblygiadau o bwysigrwydd allweddol ar gyfer cynllunio ieithyddol.

Bydd gweithio ar draws Cymru’n golygu dulliau gweithredu gwahanol. Fodd bynnag, yn hytrach na derbyn eu maen prawf fel y presennol neu’r gorffennol agos, mae angen i ACLlau ddeall y gwahaniaeth y gall dewisiadau graddfa a lleoliad amrywiol yn y CLl ei wneud yn nhermau taflwybr y dyfodol (y rhagdybiaeth “busnes fel arfer” ynglŷn â Cymraeg 2050).Yn wir, pam na ddylai ACLlau ystyried opsiwn “dan arweiniad yr iaith Gymraeg” (ar y cyd ag opsiynau fel dan arweiniad twf economaidd, dan arweiniad twf aelwydydd, dan arweiniad  gwytnwch natur) fel un o’r opsiynau amgen rhesymol ar gyfer cwblhau eu Arfarniad Cynaladwyedd Integredig?

Ffigwr 3 Enghraifft o Fap ‘GwresHeat’ Asesiad Effaith Iaith Gymraeg

 

 

Mae’r gwaith yr wyf wedi ei wneud gyda IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ac ymarferwyr ac academyddion eraill wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar geisio dod o hyd i ffyrdd ymarferol i fynd i’r afael â’r materion hyn. Rydym yn cydnabod bod angen llawer mwy o waith i ddod o hyd i ddatrysiadau effeithiol – ac yn ysbryd y Pum Ffordd o Weithio – rydym yn edrych ymlaen at greu a chrynhoi trafodaeth a ffordd o weithredu i sicrhau Creu Lleoedd, gan bod Iaith Gymraeg sy’n ffynnu o bwys.

Owain Wyn, B.Sc.(Econ), M.Sc., MBA, FRTPI 

 

[1] Gweler y diwygiadau i Ddeddf Cynllunio a Phwrcasu Gorfodol 2004 (adrannau 60B(2), 60(8) a 62(6A)

[2] Llywodraeth CYymru (2017) Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr

[3] Swyddfa Ystadegau Gwladol Statistical Bulletin (2020) National population projections: 2018 based as corrected June 2020

[4] Llywodraeth Cymru (Medi 2020) Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040

[5] Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Ffederasiwn adeiladwyr Tai, awdurdodau lleol ac eraill (2005) Cynllunioa’r iaith Gymraeg – y Ffordd Ymlaen

[6] Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Ffederasiwn adeiladwyr Tai, awdurdodau lleol ac eraill (2005) Cynllunioa’r iaith Gymraeg – y Ffordd Ymlaen