Proffesiynoli Polisi a Chynllunio Iaith

18 Gorffennaf 2016

Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy yn natblygiad proffesiynol y sector polisi a chynllunio iaith. Dyna oedd neges Gareth Ioan, Prif Weithredwr IAITH, yng Nghyfarfod Blynyddol y ganolfan cynllunio iaith ar 13 Gorffennaf.


Yn ei anerchiad i seminar o academyddion a chynllunwyr iaith amlwg, galwodd Gareth ar i Lywodraeth Cymru gynnwys ffrwd o waith yn y Strategaeth Iaith newydd fyddai’n cydnabod yr angen i ddatblygu a grymuso ymarferwyr proffesiynol yn y maes. “Diau y bydd y strategaeth newydd yn cyfeirio’n drwyadl iawn at feysydd gwaith perthnasol ond heb weithlu proffesiynol gwybodus a sgilgar nid oes modd cyflawni dim yn effeithiol”, meddai. “Mae angen datblygu sail wybodaeth gyffredin, cyfleoedd addysg a hyfforddiant cydlynus, corff o lenyddiaeth berthnasol a chyfleoedd i gyd-drafod yn ddeallus. Dylai’r amcanion hynny fod yn rhan greiddiol o is-adeiledd y strategaeth”.

Mae IAITH yn hwyluso rhwydwaith o ymarferwyr proffesiynol yn y maes hyrwyddo a chynllunio iaith, Cynllunwyr Iaith Cymru, ers 2007. “Mae’r sail a’r galw yno eisoes”, meddai Gareth Ioan. “Byddai IAITH yn falch iawn o gydweithio gyda’r Llywodraeth i alluogi gweithlu’r maes polisi a chynllunio iaith i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth ymhellach”. Cafodd y sylwadau dderbyniad gwresog gan aelodau’r gynulleidfa, gyda nifer yn ategu’r pwynt mewn trafodaeth agored yn dilyn y ddarlith.