Siaradwyr Newydd
11 Mai 2016
Bydd Dr Kathryn Jones (IAITH) yn cyfrannu i gynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Hamburg ddydd Gwener, 13 Mai.
Cynhelir y gynhadledd gan y rhwydwaith Ewropeaidd COST, sy’n hyrwyddo ymchwil ar y thema ‘siaradwyr newydd’. Bydd Kathryn yn cyfrannu papur ar y testun ‘Polisi iaith, dysgu a dinasyddiaeth mewn cyfnod o dra-amrywiaeth: creu gofod i siaradwyr newydd. Bydd Gwenan Higham, Prifysgol Caerdydd, a Steve Morris, Prifysgol Abertawe, yn rhannu llwyfan gyda Kathryn. Bydd un o noddwyr IAITH, yr Athro Colin H Williams, Prifysgol Caergrawnt, hefyd yn cyfrannu i’r sesiwn.
Gallwch weld manylion llawn am y gynhadledd a chrynodebau o’r papurau yma
https://www.slm.uni-hamburg.de/forschung/tagungen/new-speakers-2016