Strategaeth yr Iaith Gernyweg 2015-25

27 Mawrth 2015

Braint oedd hi i IAITH gyflwyno Strategaeth ar gyfer Iaith Gernyweg 2015-25 i sylw Cyngor Cernyw a Phartneriaeth yr Iaith Gernyweg (Maga) ar 20 Mawrth yn Truro.


 Strategaeth yr Iaith Gernyweg 2015-25

Comisiynwyd IAITH rhai misoedd yn ôl i adolygu sefyllfa gyfredol cynllunio ieithyddol yng nghyswllt y Gernyweg ac i baratoi Strategaeth ar gyfer y ddegawd nesaf. Gyda’r haul yn ail ymddangos o’r clip trawiadol ar draws y penrhyn, braf nodi i’r Strategaeth dderbyn cefnogaeth unfrydol y Bartneriaeth.

Lluniwyd y Strategaeth gan Gareth Ioan (Prif Weithredwr IAITH) a Meirion Prys Jones (Prif Weithredwr NPLD). “Mae cryn her yn wynebu caredigion y Gernyweg”, meddai Gareth. “Ond mae ymroddiad, egni a dycnwch y mudiad iaith yno yn ysbrydoliaeth”.

Rhyw 500 sy’n siarad Cernyweg heddiw – er nad oes ystadegau cadarn i roi darlun llawn o’r sefyllfa. Mae camau bras wedi eu cymryd o ran arwyddion dwyieithog yn ddiweddar, sy’n braf i’w weld, ac mae dosbarthiadau dysgu Cernyweg yn cael eu cynnal ymhob cornel o’r penrhyn”.

Os carech glywed ychydig o Gernyweg cyfoes beth am diwnio mewn i Radyo na Gernewegva – podleiad awr bob wythnos. Mae’r ddolen yma: http://www.anradyo.com/.

Am wybodaeth cyffredinol am y Gernyweg dilynwch y ddolen at wefan y Bartneriaeth: http://www.magakernow.org.uk/