Swydd - Rheolwr Prosiectau Hyfforddiant Iaith

11 Awst 2022

Prif ddiben y swydd yw cyfrannu at ddatblygu, gweithredu a rheoli arlwy prosiectau hyfforddiant iaith y cwmni.


Swydd - Rheolwr Prosiectau Hyfforddiant Iaith

Dyma gyfle cyffrous i arwain a datblygu ein prosiectau hyfforddiant iaith. Mae IAITH wedi bod yn arwain y maes hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith ers 1993 ac rydym yn darparu nifer o gyrsiau amrywiol mewn agweddau o bolisi, cynllunio ac ymddygiad iaith. Mae ein Academi IAITH yn darparu rhaglen o gyrsiau achlysurol yn ogystal â bwydlen o gyrsiau a ellid eu darparu i sefydliadau cyhoeddus, mudiadau gwirfoddol a chwmnïau preifat yn uniongyrchol. Cewch ragor o wybodaeth am rai o’n cyrsiau yma: Academi IAITH. Rydym hefyd yn gweithredu nifer o brosiectau sy’n datblygu hyfforddiant iaith newydd LISTEN ac sy’n cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a’r mentrau iaith.

Diddordeb? Gweler Disgrifaid Swydd Rheolwr Prosiectau Hyfforddiant Iaith

Dylai eich cais ein cyrraedd erbyn 2.00 ar ddydd LLun, 5ed o Fedi 2022.

Dyddiad cyfweld, dydd Mawrth  13eg o Fedi 2022, swyddfa IAITH yng Nghastellnewydd Emlyn