Y Gymraeg a gwaith Cymdeithasol

15 Mehefin 2015

Lansiwyd CAEA (cwrs agored enfawr ar-lein) cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar 21 Mai yn y Brifysgol Agored yng Nghaerdydd gan Mark Drakeford AC.


Y Gymraeg a gwaith Cymdeithasol

Elaine Davies, IAITH, yw awdur y cwrs ‘Y Gymraeg a gwaith Cymdeithasol’ – cwrs ymwybyddiaeth iaith Gymraeg newydd sbon sy’n adeiladu ar y deunydd y mae Elaine wedi ei gynhyrchu ym maes ymwybyddiaeth iaith dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.

Meddai Andrew Green, Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd hefyd wedi cadeirio gweithgor ar ran y Llywodraeth i Ddysgu Digidol Ar-lein:  “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cynnydd enfawr yn y diddordeb ym mhob rhan o’r byd mewn dulliau newydd o ddysgu myfyrwyr. Mae’n gam naturiol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fod yn gweithio ar brosiect cyffrous fel y CAEA.  Mae’r cynnyrch terfynol wedi ei baratoi a’i ddylunio i safon uchel ac rydym yn ddiolchgar i IAITH am ei gwaith gwych.  Mae’r CAEA ymwybyddiaeth iaith yn fodel y gellir ei efelychu mewn meysydd addysg uwch eraill, gyda’r maes iechyd yn dod i’r meddwl yn syth”.

Hyderwn y gallwn gydweithio â meysydd eraill i greu adnoddau tebyg.