YMCHWILYDD CYMUNEDOL

02 Mai 2019

Prosiect ymchwil i ddeall agweddau ac ymddygiad rhieni a gwarcheidwaid o ran gofal ac addysg blynyddoedd cynnar

(Gwaith llawrydd dros dro gyda IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru)


Y gwaith a’r person: cynigir cyfle cyffrous i ymgeisio i ymuno â thîm y prosiect ymchwil hwn dros gyfnod o hyd at 4 - 5 mis (i gychwyn cyn gynted a bo modd ym mis Mai 2019 a gorffen Awst neu Medi 2018).  Bydd disgwyl i’r ymchwilydd cymunedol gynorthwyo gyda chasglu tystiolaeth yn un o ddeg ardal ymchwil y prosiect.

Y prosiect ymchwil: Mae Llywodraeth Cymru  wedi comisiynu IAITH i gynnal ymchwil i’r rhesymau pam nad yw rhieni a  gwarcheidwaid yn dewis peidio â chymryd gofal plant ffurfiol ac addysg feithrin cyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar.   Nod yr ymchwil yw deall y rhesymau pam y mae rhieni a gwarcheidwaid yn dewis peidio â manteisio ar y gwasanaethau hyn a beth sy'n cymell rhieni a gwarcheidwaid i wneud dewisiadau ynghylch addysg a gofal  blynyddoedd cynnar. Lleolir yr ymchwil mewn deg ardal ar draws Cymru. Anelir i gynnwys 10 neu ragor o rieni a gwarcheidwaid yn yr ymchwil ym mhob ardal.

Disgrifiad Swydd