Yn eisiau - Gweithwyr Llawrydd

07 Hydref 2015

Mae IAITH yn chwilio am bartneriaid llawrydd i’n cynorthwyo i ymgymryd â phrosiectau achlysurol.


Yn eisiau - Gweithwyr Llawrydd

Oes gennych chi brofiad o weithio ym maes polisi a chynllunio iaith?

Oes gennych chi sgiliau y gallech chi eu cymhwyso i’r maes?

Carech chi ymuno â thîm IAITH?

Mae IAITH yn chwilio am bartneriaid llawrydd i’n cynorthwyo i ymgymryd â phrosiectau achlysurol. Rydym yn awyddus i glywed gan:

  • Hyfforddwyr ymwybyddiaeth iaith
  • Ymchwilwyr maes
  • Ystadegwyr
  • Gweithwyr prosiect/maes 

Os carech chi gael eich ystyried ar gyfer rhestr partneriaid llawrydd IAITH, anfonwch eich CV at sylw’r Prif Weithredwr at post@iaith.eu gan nodi eich diddordeb.

Yng nghyswllt gwaith yng Nghymru, mae’n ofynnol bod ein cydweithwyr yn medru gweithio yn Gymraeg a Saesneg i safon broffesiynol.