Cynllunio Gweithlu Dwyieithog, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gwynedd a Môn.
Rhwng mis Tachwedd 2023 a Medi 2024 bu IAITH yn cynnal prosiect ymchwil ‘Cynllunio Gweithlu Dwyieithog’ ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gwynedd a Môn.
Cydweithiwyd gyda - a chasglwyd tystiolaeth oddi wrth – y tri BGC yng ngogledd Cymru, sefydliadau cyhoeddus oddi fewn i ardaloedd y byrddau yma, ac is-grŵp iaith Gymraeg BGC Gwynedd a Môn. Nod y gwaith oedd i helpu sefydliadau BGCau y gogledd i ddeall y materion allweddol sydd ynghlwm wrth recriwtio siaradwyr Cymraeg. Cynhaliwyd dwy seminar yn Llanelwy er mwyn casglu a rhannu tystiolaeth a chyflwynwyd adroddiad (sydd yn tynnu sylw at arferion da a drwg ymhlith sefydliadau’r gogledd) ynghyd ag adnodd i sefydliadau (rhestr wirio hygyrch ar gyfer recriwtwyr) yn allbynnau i’r prosiect.
Adroddiad Terfynol Cynllunio Gweithlu Dwyieithog, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn.