Cynllunwyr Iaith Cymru


Sefydlwyd Cynllunwyr Iaith Cymru (CIC) gan IAITH yn 2006 ar y cyd â grŵp o unigolion oedd yn gweithio yn broffesiynol fel cynllunwyr iaith mewn gwahanol gwmnïau a sefydliadau ar draws Cymru. Y bwriad oedd ceisio datblygu fforwm proffesiynol i hyrwyddo trafodaeth ymysg y proffesiwn ac a allai, maes o law, droi’n gymdeithas broffesiynol o gynllunwyr iaith Cymreig.

Ysgogwyd a hwyluswyd y datblygiad gan IAITH, fel rhan o’n cenhadaeth i godi a datblygu proffil proffesiynol i’r maes polisi a chynllunio iaith yng Nghymru. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd datblygu yng nghanolfan y Cambria yn Aberystwyth yng ngaeaf a gwanwyn 2006 i ddatblygu consensws a pherchnogaeth agored ar y bwriadau hynny. Lansiwyd CIC yn ffurfiol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a’r Cyffiniau 2007. Cytunwyd ar ddibenion cyffredinol ar gyfer CIC a set o werthoedd craidd mewn cynhadledd a gweithdy yn Aberystwyth yn Hydref 2007. Cytunwyd hefyd ar fframwaith bosibl ar gyfer cymwyster proffesiynol mewn Polisi a Chynllunio Iaith mewn gweithdy ym mis Ebrill 2008.

Fodd bynnag, er enwebu gweithgor i fraenaru’r ffordd ymlaen yn 2008, gan o bosibl ystyried sefydlu CIC yn gorff annibynol, cafwyd anawsterau ar y daith honno ac fe ymgorfforwyd CIC yn ffrwd o fewn gweithgareddau IAITH o 2009 ymlaen wrth i IAITH dderbyn statws elusennol.

Ers hynny:

  • cynhaliwyd darlith/trafodaeth flynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn enw CIC – sydd wedi llwyddo i godi proffil cyffredinol y maes dros y ddegawd ddiwethaf, gan ddenu cynulleidfa gref yn flynyddol;
  • cynhaliwyd nifer o seminarau a chynadleddau achlysurol ar bynciau o ddiddordeb cyffredin i’r maes; a
  • chynhelir rhestr bostio o aelodau CIC sy’n derbyn gwybodath achlysurol am ddatblygiadau yn y maes.

Mae tua 200 o unigolion wedi cofrestru yn uniongrchol gyda CIC ar hyn o bryd gyda rhyw 200 arall naill yn mynychu disgwyddiadau neu’n holi am wybodaeth am CIC yn achlysurol. Cynigir aelodaeth CIC yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd – er y gall hynny newid yn y dyfodol.

Ymunwch â CIC er mwyn ymuno â fforwm broffesiynol sy’n hyrwyddo’r maes polisi a chynllunio iaith yng Nghymru.