Gosod y Safon: Comisiynydd y Gymraeg


Dyddiad ac Amser:

Mae Cynllunwyr Iaith Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd cyfle i swyddogion iaith ac eraill sydd yn gweithio yn y maes cynllunio iaith i ddod i gyfarfod â Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, mewn dau ddigwyddiad penodol i weithwyr proffesiynol yn y maes. Mae CIC yn cynnal dau seminar – un yn y de a'r llall yn y gogledd – er mwyn rhoi cyfle i swyddogion iaith ac eraill ddechrau deialog gyda'r Comisiynydd a'i staff ynglyn â'r safonau arfaethedig.

• Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, 9.30a.m. – 1.00p.m., dydd Mercher, 30 Mai 2012.

• Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, 9.30a.m. – 1.00p.m., dydd Gwener, 1 Mehefin 2012.