Iaith ac Economi


Dyddiad ac Amser: 17 Medi 2014, 10:00 - 4:00

Lleoliad: Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth

Mewn partneriaeth â Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru

Mae ymateb Edwina Hart i adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd ar fin cael ei gyhoeddi. Mae nifer o adroddiadau eraill yn ddiweddar hefyd wedi cyfeirio at y cyswllt rhwng hyfywedd y Gymraeg ac economi ffyniannus.

Bydd y gynhadledd amserol hon yn gyfle i wneuthurwyr polisi, grwpiau cymunedol, mentrau iaith, cynllunwyr iaith, awdurdodau lleol, academyddion a’r sector fusnes ddod ynghyd i wyntyllu’r pwnc eang a elwir yn ‘iaith ac economi’ gan geisio cyfeirio meddyliau tu hwnt i’r slogan.

Yn ogystal â cheisio dadelfennu’r maes, byddwn yn edrych ar ymdrechion lleol i gynnal mentrau economaidd sy’n rhoi bri ar y Gymraeg a chynnal cyflogaeth ymysg siaradwyr Cymraeg yn y gogledd a’r gorllewin.

Bydd cyfle hefyd i drafod:

  • Beth sydd ei angen ar lefel polisi cenedlaethol a rhanbarthol i sicrhau amgylchiadau economaidd a allai gynnal cymdogaethau Cymraeg?
  • Beth sydd ei angen er mwyn hyrwyddo menter, rhoi bri ar y Gymraeg a chynnal cyflogaeth ymysg siaradwyr Cymraeg o fewn diwydiannau amrywiol yn y gogledd a’r gorllewin?

Siaradwyr:

Wynfford James,  Comisiynydd y Gymraeg   

Bethan Webb, Llywodraeth Cymru

Selwyn Williams, Prifysgol Bangor    

Menna Jones, Antur Waunfawr     

Euros Lewis, Wes Glei  

Gwyn Roberts, Galeri Caernarfon 

Meirion Davies, Menter Iaith Conwy  

Alun Jones, Menter a Busnes   

Dylan Iorwerth, Golwg

Trafodion