Newid Ymddygiad a’r Gymraeg


Dyddiad ac Amser: 15 Rhagfyr 2014 10.00 a.m. – 1.00 p.m.

Lleoliad: Sefydliad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth

Beth all y maes polisi a chynllunio iaith ddysgu oddi wrth ddamcaniaethau a dulliau’r maes Newid Ymddygiad er mwyn, er enghraifft:

  • newid defnydd iaith disgyblion tu hwnt i’r dosbarth?
  • newid arferion iaith yn y gweithle?
  • newid defnydd iaith o fewn teuluoedd?
  • codi hyder dysgwyr a’r llai rhugl?

Dros y degawd diwethaf, tyfodd ‘newid ymddygiad’ i fod yn ganolog i faes polisi cyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol wrth i wneuthurwyr polisi sylweddoli bod newid ymddygiad unigolion a grwpiau yn angenrheidiol ar gyfer gweithredu polisïau yn llwyddiannus. Erbyn hyn ceir dros 60 o fodelau cymdeithasol-seicolegol ar gyfer newid ymddygiad[1]. Ond pa rai o’r rhain sy’n ddefnyddiol ar gyfer dylanwadu ar ddefnydd pobl o’r Gymraeg?

Mae Newid Ymddygiad Ieithyddol bellach yn un o flaenoriaethau Bwrw Mlaen, polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Felly, mae gofyn i bawb sy’n gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg deall ‘ymddygiad ieithyddol’ a dulliau ‘newid ymddygiad’ er mwyn datblygu dulliau ymyrryd i gynyddu ac ehangu ar y defnydd o’r Gymraeg.

Bydd y seminar yma’n gyfle i:

  • ystyried yn feirniadol y model ‘newid ymddygiad’ sy’n ganolog i Fwrw Mlaen;
  • ddysgu am dechnegau arbrofol ac arloesol ym meysydd yr amgylchedd a newid hinsawdd;  
  • perthnasu modelau ‘newid ymddygiad’ i brosiectau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg; ac
  • ystyried sut gallwn fanteisio ar theori a dulliau newid ymddygiad i greu maes Polisi a Chynllunio Ieithyddol sy’n fwy effeithiol.

Siaradwyr:

Trafiodion