Newid Ymddygiad a’r Gymraeg
Dyddiad ac Amser: | 15 Rhagfyr 2014 10.00 a.m. – 1.00 p.m. |
Lleoliad: Sefydliad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth
Beth all y maes polisi a chynllunio iaith ddysgu oddi wrth ddamcaniaethau a dulliau’r maes Newid Ymddygiad er mwyn, er enghraifft:
- newid defnydd iaith disgyblion tu hwnt i’r dosbarth?
- newid arferion iaith yn y gweithle?
- newid defnydd iaith o fewn teuluoedd?
- codi hyder dysgwyr a’r llai rhugl?
Dros y degawd diwethaf, tyfodd ‘newid ymddygiad’ i fod yn ganolog i faes polisi cyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol wrth i wneuthurwyr polisi sylweddoli bod newid ymddygiad unigolion a grwpiau yn angenrheidiol ar gyfer gweithredu polisïau yn llwyddiannus. Erbyn hyn ceir dros 60 o fodelau cymdeithasol-seicolegol ar gyfer newid ymddygiad[1]. Ond pa rai o’r rhain sy’n ddefnyddiol ar gyfer dylanwadu ar ddefnydd pobl o’r Gymraeg?
Mae Newid Ymddygiad Ieithyddol bellach yn un o flaenoriaethau Bwrw Mlaen, polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Felly, mae gofyn i bawb sy’n gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg deall ‘ymddygiad ieithyddol’ a dulliau ‘newid ymddygiad’ er mwyn datblygu dulliau ymyrryd i gynyddu ac ehangu ar y defnydd o’r Gymraeg.
Bydd y seminar yma’n gyfle i:
- ystyried yn feirniadol y model ‘newid ymddygiad’ sy’n ganolog i Fwrw Mlaen;
- ddysgu am dechnegau arbrofol ac arloesol ym meysydd yr amgylchedd a newid hinsawdd;
- perthnasu modelau ‘newid ymddygiad’ i brosiectau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg; ac
- ystyried sut gallwn fanteisio ar theori a dulliau newid ymddygiad i greu maes Polisi a Chynllunio Ieithyddol sy’n fwy effeithiol.
Siaradwyr:
- Gareth Ioan (Prif Weithredwr IAITH: y ganolfan cynllunio iaith)
- Osian Elias (Myfyriwr PhD ar Newid Ymddygiad a Pholisi Iaith, Prifysgol Aberystwyth)
- Dr Kathryn Jones (Cyfarwyddwr Polisi Iaith ac Ymchwil, IAITH)
- Yr Athro Rhys Jones (Pennaeth Grŵp Ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd, Prifysgol Aberystwyth