Diben Cynllunwyr Iaith Cymru yw:


  • dod ag unigolion o feysydd gwahanol at ei gilydd i rwydweithio, rhannu profiadau a rhannu arferion da;
  • hyrwyddo'r maes fel disgyblaeth broffesiynol a cheisio sicrhau cydnabyddiaeth iddi ar y lefel uchaf;
  • bod yn llwyfan i ddatblygu a hwyluso datblygiad proffesiynol cyffredin yn y maes;
  • bod yn fodd i hwyluso a rhoi llwyfan gyhoeddus i drafodaeth ddeallus ymysg gweithredwyr proffesiynol yn y maes;
  • bod yn fodd i rannu gwybodaeth am gynllunio iaith ar lefel Gymreig ac yn fyd-eang ymysg ymarferwyr.

Wrth ddatblygu, bwriad Cynllunwyr Iaith Cymru fydd cynnig cyfleodd i:

  • gyd-drafod materion o ddiddordeb mewn seminarau a chynadleddau achlysurol;
  • rhannu arferion da;
  • rhannu papurau ac erthyglau a fyddai o ddiddordeb i'r maes;
  • derbyn gwybodaeth a newyddion trwy gyfrwng e-lythyr rheolaidd;
  • cyfrannu at drafodaeth ar-lein ar faterion cynllunio iaith;
  • rhwydweithio â chynllunwyr iaith eraill o dro i dro;
  • cyfranogi mewn prosesau i broffesiynoli'r maes.

I bwy mae Cynllunwyr Iaith Cymru?

Mae CIC yn bodoli er mwyn unrhyw un sy'n ymwneud â hyrwyddo'r Gymraeg neu ddatblygu dwyieithrwydd yn eu gwaith beunyddiol:

  • ymgynghorwyr annibynnol
  • academyddion
  • ymchwilwyr
  • staff mentrau datblygu economaidd a chymunedol
  • swyddogion polisi cyrff cyhoeddus neu wirfoddol
  • staff mentrau iaith
  • staff asiantaethau diwylliannol

Os yw cynllunio o blaid y Gymraeg yn rhan o'ch swydd mewn unrhyw fodd, mae CIC yno i chi.