Prosiect meithrin hyder ieithyddol LISTEN
 

Mae gan ieithoedd cyd-swyddogol, ieithoedd sydd mewn perygl, ieithoedd cynhenid, a ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol (IRhLl) un peth yn gyffredin: mae eu siaradwyr yn tueddu i newid i'r iaith fwyafrifol mewn cyd-destunau a sefyllfaoedd penodol. Maen nhw'n gwneud hynny pan mae siaradwr y brif iaith o gwmpas, neu pan maen nhw'n mynd at berson diarth, neu pan maen nhw'n mynd i'r siopau neu i weithio. Lle na chefnogir yr iaith leiafrifol yn swyddogol, gall y newid o un iaith i’r llall fod yn gyflymach ac yn amlach.

 

Pam fod pobl yn newid i'r iaith ddominyddol neu fwyafrifol mor gyflym mewn rhai sefyllfaoedd?

Mae gan seicolegwyr enw am newid i iaith ddominyddol: ymostyngiad. Golyga ymostyngeiddrwydd bod rhywun yn atal ei hun (yn ddigymell) rhag ymddwyn mewn rhyw ffordd o ganlyniad i arfer, neu ofn cael ei gosbi. Mae ymostyngiad ieithyddol yn digwydd pan fydd rhywun yn stopio siarad ei iaith ei hun ac yn newid i'r iaith arall, hyd yn oed pan nad oes unrhyw un wedi gofyn iddi/o i wneud hynny. Os yw siaradwr Cymraeg yn mynd i mewn i siop leol mewn ardal Gymraeg lle maen nhw'n gwybod bod y staff yn siarad Cymraeg ond mae nhw'n dechrau siarad Saesneg, yna mae'r person hwnnw'n ymddwyn mewn ffordd sydd yn ymostyngol yn ieithyddol. Os yw dau siaradwr Gwyddeleg yn cael sgwrs ac yna mae dieithryn yn mynd atynt ac maent yn newid i'r Saesneg cyn cael gwybod unrhyw beth am allu ieithyddol yr unigolyn, yna maent yn ymddwyn yn ymostyngol yn ieithyddol.

 

Beth yw’r hyfforddiant?

 

Mae prosiect LISTEN yn treialu rhaglen hyfforddi sy'n helpu siaradwyr ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol i fynegi eu hunain yn eu hiaith eu hunain tra'n teimlo'n dawel ac yn hunan-sicr. Bydd hefyd yn cynnig strategaethau pan fydd pobl yn ansicr a yw eu cymheiriaid yn siarad yr un iaith. Bydd y fethodoleg hon yn cael ei chefnogi gan ddeunydd darllen, fideos, ac adnoddau a fydd ar gael i hyfforddwyr a siaradwyr fel ei gilydd.
Prif ganlyniad y prosiect LISTEN fydd datblygu methodoleg ar gyfer addasu cysyniad ‘hyder ieithyddol’ (language assertiveness) i sefyllfaoedd penodol a datblygu cyrsiau ar gyfer siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.

Mae consortiwm prosiect LISTEN yn cynnwys Prifysgol València (Sbaen), Prifysgol Sapientia (Romania), Consiglio Nazionale delle Ricerche (Yr Eidal), IAITH: y ganolfan cynllunio iaith (Cymru), Afûk (Fryslân/Friesland), Conradh na Gaeilge (Gogledd Iwerddon) ac ELEN y Rhwydwaith Cydraddoldeb Iaith Ewropeaidd.

Mae'r cyntaf o gyfres o animeiddiadau LISTEN a gafodd eu cynhyrchu gan Brifysgol Hwngareg Sapientia yn Transylvania wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar.

Prosiect LISTEN -Cymraeg

The LISTEN Project - Saesneg

LISTEN Projekt - Ffriseg


Cewch ragor o fanylion am y prosiect ar wefan LISTEN https://listen-europe.eu/cy/hafan/ neu trwy gysylltu â post@iaith.cymru.