Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae IAITH wedi bod yn gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithredu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Gyflogwyr ‘Cymraeg Gwaith’.
Mae’r rhaglen o wasanaeth a gwybodaeth i gyflogwyr yn cynnwys:
Cyngor ar sut i ddadansoddi anghenion sgiliau Cymraeg eich sefydliad.
Manylion am beth i’w ddisgwyl drwy annog staff i ddilyn cyrsiau Cymraeg.
Cyngor am yr hyfforddiant sydd ar gael i’ch helpu.
Cyngor ar gefnogi dysgwyr yn y gweithle.
Sesiynau gwybodaeth am y Gymraeg.
- Mae’r sesiynau gwybodaeth am y Gymraeg yn cynnwys:
- Cyflwyniad i’r cyd-destun polisi cyfredol;
- Gwybodaeth am yr angen i gynllunio gweithluoedd dwyieithog;
- Manteision cynyddu dwyieithrwydd sefydliadol;
- Sut i ddadansoddi anghenion sgiliau Cymraeg eich sefydliad;
- Hyfforddiant sydd ar gael i’ch helpu drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
- Cefnogi dysgwyr yn y gweithle, a
- Cynllunio i’r dyfodol.
Mae’r sesiynau wedi eu teilwra ar gyfer:
- Swyddogion iaith
- Swyddogion hyfforddi
- Staff AD perthnasol
- Rheolwyr