Estyn Llaw Project: Summer 2018, Treuddyn

30 October 2018

(Welsh Only) Enillwyd grant o £4900 gan IAITH drwy gynllun grant Arian i Bawb er mwyn gweithio gyda chymuned o bobl hŷn sy’n siarad Cymraeg. Darparwyd y prosiect o dan faner un o gynlluniau IAITH sef Estyn Llaw.  Bwriad gwreiddiol y prosiect oedd cynnal cyfres o weithdai i gynyddu sgiliau’r grŵp o safbwynt ymgysylltu o fewn eu cymunedau. Gwyliwch yr hanes yma


Estyn Llaw Project: Summer 2018, Treuddyn

Fodd bynnag, ar sail trafodaethau’n lleol yn ardal Treuddyn, ac ar sail grŵp ffocws a gynhaliwyd yn gynnar ym mis Gorffennaf 2018, aed ati i greu prosiect a fyddai’n pontio’r cenedlaethau yn y pentref. Gwahoddwyd criw o siaradwyr Cymraeg o blith cenhedlaeth hŷn y pentref i’r grŵp ffocws. Daeth yn amlwg eu bod yn dymuno dod i gyswllt agosach gyda theuluoedd ifanc yn y pentref. Roedd sawl rheswm dros hyn:

·    Gwella perthynas rhwng y cenedlaethau yn y pentref

·    Lleihau unigedd pobl hŷn a rhieni ifanc

·    Rhannu gwybodaeth am hanes y pentref, a

·    Throsglwyddo’r Gymraeg rhwng y cenedlaethau

Trefnwyd cyfres o 8 o sesiynau yn ystod yr haf gyda phob un ond un yn digwydd yng nghanolfan Hafan Deg yn Nhreuddyn. Roedd y sesiynau yn agored i unigolion o’r pentref oedd dros 60 oed a rhieni oedd yn dymuno cyflwyno’r Gymraeg i’w plant. Tarddodd y syniadau ar gyfer y gweithgareddau a gynhaliwyd o’r grŵp ffocws. Roedd y sesiynau yn cynnwys:

·    Sesiwn chwarae lle'r oedd cyfle i’r bobl hŷn rannu atgofion am eu plentyndod

·    Celf a chrefft - gwneud cardiau Cymraeg

·    Sesiwn ddawns

·    Hanes yr ardal

·    Sesiwn stori

·    Taith i theatr Clwyd i gael cyngerdd arbennig  

Ar ddiwedd pob sesiwn roedd y criw yn canu caneuon a hwiangerddi Cymraeg gyda’i gilydd.

Gyda phob sesiwn adeiladwyd perthynas rhwng y pentrefwyr â’i gilydd, gyda’r rhieni ifanc yn mwynhau seibiant bach a’r bobl hŷn wrth eu boddau yn cael y cyfle i helpu ac i fagu’r babis a’r plant bach.

Ymwelodd IAITH â’r criw ar sawl achlysur er mwyn mesur llwyddiant a gwerthuso’r prosiect. Casglwyd y sylwadau isod wrth sgwrsio yn anffurfiol gyda’r mynychwyr:

 

Mamau

“It’s a great reason to get out of the house with the baby. I hadn’t really thought about the Welsh side of things until I met these people. It’s definitely made me think about why it’s important and how it could benefit us.”

“I’ve made new friends, young and old. I hope that we’ll keep in touch. It’s made me feel supported.”

“It’s just lovely to meet someone from the village that I didn’t know before. I saw **** on the street the other day and she came over to speak to me. It felt really comfortable and friendly.”

“It’s given me a bit of confidence to use Welsh actually.  The songs we’ve learned and some words here and there. It’s made me want to learn more.”

“It would be great if this could be extended to other areas too. It’s a valuable experience for us and them. I hope! Bringing generations together, it seems like common sense really.”

“It’s given me the confidence to sing in Welsh with the baby. I’d like to keep that up. Can we have more of these sessions?”

 

Pobl hŷn

“Dan ni di bod yn rhannu hanes y pentref a’r Gymraeg. Dydyn nhw ddim yn gweld y byd yna tan eu bod nhw’n dod i grŵp fel hwn. Ma’n bwysig ein bod ni’n siarad efo nhw, neu does dim disgwyl iddyn nhw ystyried y Gymraeg.”

“Y gwmnïaeth yw’r peth gorau a chael cyfarfod pobl ifainc sy’ wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i siarad gyda ni. Mae’n gwneud i mi deimlo bod gen i rywbeth i’w roi.”

“Os nad ydan ni y to hŷn yn cyflwyno’r Gymraeg iddyn nhw - does na’m gobaith nagoes? Ac mae’n braf cael magu hefyd. Mae’n dod nôl ag atgofion melys.”

“Rheswm i ddod allan am dro a chyfarfod pobl newydd. Sŵn i ddim yma, mae’n debyg mae adre faswn i.”

“Y dawnsio oedd y peth gorau. Roedd pawb yn ymuno a’r plant wrth ei boddau. A ninnau hefyd. Gweithgareddau ymarferol sy’n annog ni i sgwrsio ac yn eu hannog nhw i glywed iaith.”